Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Yn gyntaf oll, o ran ariannu, fel y nodais yn gynharach, mae £585,000 ar gael ar gyfer rhaglen y GIG i gyn-filwyr. Gwrandewais ar yr Aelod yn ofalus iawn ynglŷn â’r cynnydd y mae'n ei awgrymu ac y mae eraill wedi ei awgrymu. Byddaf yn edrych ar hynny gyda chydweithwyr eraill ym mhob rhan o’r Cabinet i weld a oes ffordd well o ddarparu gwasanaethau neu gymhlethdod gwneud hyn. Nid wyf yn dweud bod hyn yn berffaith o bell ffordd, ond credaf ein bod, yng Nghymru, yn gallu cynnig gwell lefel o wasanaeth ledled Cymru, ac rwyf yn gobeithio y gallwn ddatrys rhai o'r mannau cyfyng a welwn gyda'n gilydd. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o’r grŵp arbenigol sy'n bodoli yng Nghymru a’i fod yn croesawu hynny, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn gofyn iddynt ei ystyried yn benodol o ran darpariaeth gwasanaethau.
Mae’r Aelod yn cyfeirio at y siediau cyn-filwyr. Roedd y sièd i ddynion y bûm i’n ymweld â hi, mewn gwirionedd, yn llawn o gyn-filwyr, felly nid oedd wedi ei henwi’n benodol yn sièd i gyn-filwyr, ond mewn gwirionedd, roedd y sièd i ddynion y bûm i’n ymweld â hi yn cael ei chefnogi’n bennaf gan gyn-filwyr, ac roedd ysbryd cymunedol gwych yn yr adeilad hwnnw er gwaethaf rhai o'r heriau yr oedd rhai unigolion yn brwydro yn eu herbyn. Yn wir, un o'r pwyntiau mwyaf diddorol oedd integreiddio cyn-filwyr â phobl eraill yn y gymuned â rhai problemau iechyd meddwl yn ogystal â defnyddio gwasanaethau hefyd. Mae’n ffordd wahanol o integreiddio’n gymdeithasol a magu hyder, sy’n fy arwain at fater lluoedd y cadetiaid ac rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i'r gwaith aruthrol y mae'r gwirfoddolwyr yn ein gwasanaethau cadetiaid a’n gwasanaethau tiriogaethol yn ei ddarparu ledled y DU, ac yn arbennig yng Nghymru. Nid yw bob amser yn ymwneud â’r egwyddor y mae gwasanaeth y cadetiaid yn sefyll drosti, ond a dweud y gwir mae'n creu unigolyn mwy cyfannol a chydnerthedd cymunedol nad ydym yn ei weld y tu allan i'r sefydliadau hyn. Maent yn rhoi gwerth i bobl a chyfle i rannu hynny â’r gymuned leol hefyd. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn gefnogol iawn iddo, ond byddwn yn annog pwyll o ran lluoedd y cadetiaid, yn arbennig mewn ysgolion, a gwneud yn siŵr bod mynediad, yn enwedig i werth addysgiadol gwasanaethau a chefnogaeth iddynt mewn ysgolion, yn cael ei gydbwyso’n ofalus â llwybrau cyflogaeth yn ddiweddarach yn y broses.
Mae rhai’n honni bod rhai o'r lluoedd arfog yn targedu ardaloedd penodol oherwydd ei bod yn haws denu pobl mewn trefi a phentrefi penodol, oherwydd y dystiolaeth academaidd ynghylch yr ardaloedd hynny. Credaf y dylai’r lluoedd arfog, os ydynt yn ystyried recriwtio, fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r holl gymunedau ledled y DU. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi cael sgyrsiau amdano yn y gorffennol â lluoedd milwrol, ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn yn ei gylch, a pheidio â thargedu rhai grwpiau yn hytrach nag eraill.