Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch ichi, Weinidog, am eich datganiad. Byddwch yn gwybod am fy niddordeb hir yn y lluoedd arfog, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o weld Llywodraeth Cymru’n codi llawer o'r materion yr wyf wedi eu nodi yn y gorffennol, ac yn arbennig y cymorth parhaus i wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Byddwch yn gwybod, fodd bynnag, fod anghysondeb, fel y soniwyd eisoes, o ran amseroedd aros i gael y gwasanaeth hwnnw a'r gwasanaeth ei hun drwy’r clinigydd arweiniol, Dr Neil Kitchiner, sydd wedi awgrymu bod angen pecyn cymorth blynyddol o fwy na £700,000. Tybed, Weinidog, a fyddwch yn gallu adolygu, ynghyd â'ch cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, y buddsoddiad sy'n digwydd yn y gwasanaeth hwnnw a chadw llygad ar gapasiti'r gwasanaeth i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio.
Fel Mark Isherwood, rwyf innau am ganu clodydd y rhaglen Change Step ledled Cymru hefyd. Mae'n rhywbeth yr wyf yn credu sy’n unigryw yn y Deyrnas Unedig. Mae'r cymorth gan gymheiriaid a ddarperir i gyn-filwyr a'u teuluoedd drwy Change Step wedi gweddnewid bywydau yn wirioneddol, ac rwyf wedi cwrdd â llawer o unigolion sydd wedi newid eu sefyllfa’n llwyr o ganlyniad i'r cymorth sydd ar gael. Ond mae dyfodol ansicr i’r gwasanaeth hwnnw ar ôl y 12 mis nesaf. Er ei fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hyd at fis Mawrth, mae rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol. Tybed, Weinidog, a allwch ddweud wrthym a fyddech yn ystyried a fyddai ariannu'r gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud?
Soniasoch am y rhwydwaith o siediau i ddynion. Mae sièd cyn-filwyr, yn wir, wedi’i sefydlu yn fy etholaeth i yn Llanddulas. A ydych yn meddwl y gallech gefnogi ehangu siediau cyn-filwyr yn y dyfodol? Yn olaf, un peth na soniasoch amdano yn eich datganiad oedd rôl lluoedd y cadetiaid mewn lifrai ledled Cymru o ran darparu cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc a hefyd o ran cefnogi llawer o'n hysgolion lle na fyddai pobl ifanc fel arall mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant—NEETs, yn gyfan gwbl y tu allan i'r system addysg. Byddwch yn gwybod bod rhaglen ehangu cadetiaid wedi bod, wedi ei ariannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Lloegr. Tybed, Weinidog, a wnewch chi gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ehangu'r rhaglen cadetiaid mewn ysgolion yng Nghymru pe byddai ceisiadau gan ysgolion yng Nghymru? Mae cyfleoedd i bobl, wrth gwrs, i ennill cymwysterau na fyddent wedi eu cael fel arall mewn gwasanaeth cyhoeddus a thrwy'r cynllun cymhwyster galwedigaethol i gadetiaid, pe byddent yn cymryd rhan yn lluoedd y cadetiaid. Tybed, Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym a yw eich Llywodraeth yn cefnogi hynny?