Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 29 Mehefin 2016.
Fe fyddwch yn ymwybodol o’r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sef grŵp o bobl ar draws Cymru, a bydd llawer ohonynt yn byw yn ein hetholaethau, a frwydrodd yn erbyn canlyniadau annheg iawn Deddf Pensiynau 2011. Mae’r ddeddfwriaeth, fel y dywedwch, wedi gadael degau o filoedd o fenywod a anwyd ar ôl 6 Ebrill 1951 ar eu colled. Y ffigur swyddogol rwyf wedi’i weld yw £12,000, er i mi gyfarfod â’r etholwyr Janet Davies a Julie Peach yr wythnos diwethaf a ddywedodd y byddent hwy’n bersonol hyd at £38,000 yn waeth eu byd. Roedd gan fy nghyd-Aelod Vikki Howells ddatganiad barn a lofnodwyd gan Aelodau trawsbleidiol, er i mi nodi na wnaed hynny gan Aelodau Ceidwadol. A wnewch chi ymuno â fy etholwyr a chytuno i barhau i ymgyrchu—rwy’n falch eich bod wedi gwneud hynny—a galw’n uniongyrchol, drwy ysgrifennu, ar Lywodraeth y DU i gyflwyno trefniadau teg?