<p>Trefniadau Pensiwn Gwladol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:36, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am dynnu sylw at ymgyrch y Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sy’n cynnal gwrthdystiad mawr heddiw ac sydd wedi tynnu sylw at y mater hwn mor effeithiol. Ysgrifennodd Lesley Griffiths, a oedd â chyfrifoldebau cydraddoldeb yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, at y Farwnes Altmann, y Gweinidog Gwladol dros Bensiynau ar y pryd, ym mis Chwefror eleni, yn mynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y ddwy Ddeddf bensiynau. Mae’r Aelod yn llygad ei le yn dweud bod yr ymgyrch yn galw am drefniadau trosiannol teg ar gyfer pensiwn y wladwriaeth. Nid ydynt yn gwrthwynebu trefniadau teg; maent yn gwrthwynebu’r modd y cyflwynwyd newidiadau i’w pensiynau ddwywaith, yn eu rhoi dan anfantais ar y ddau achlysur, a hynny heb rybudd digonol. Dywedodd Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin y gellid ac y dylid bod wedi gwneud mwy i ddarparu gwybodaeth briodol i’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Dyna’n sicr yw safbwynt y Llywodraeth hon, ac mae’n un y byddwn yn parhau i’w wthio ar eu rhan.