<p>Trefniadau Pensiwn Gwladol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 1:39, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diau y bydd gwrthdystiad Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth a lobïo’r Senedd heddiw wedi cael eu boddi gan ddigwyddiadau eraill. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau yn Nhŷ’r Cyffredin wedi dod o hyd i ateb i’r broblem hon, er mwyn galluogi menywod i hawlio eu pensiwn yn gynnar ar gyfradd is. Beth y gallwch ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU, yn enwedig Stephen Crabb yn ei swydd bresennol, y dylent ailystyried y trefniadau trosiannol hyn, sy’n ymddangos yn gwbl resymol ac na fydd yn costio mwy o arian o gwbl i’r trethdalwr?