Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 29 Mehefin 2016.
Wel, Lywydd, nid yw’r rhai sy’n ymgyrchu ar y mater hwn yn gwrthwynebu cydraddoli graddol fesul cam; yr hyn y maent yn ymgyrchu yn ei gylch yw’r modd uniongyrchol wahaniaethol y mae grŵp o fenywod a anwyd rhwng 1950 a 1953 wedi cael eu heffeithio’n andwyol ddwywaith gan y penderfyniad i godi eu cyfradd pensiwn y wladwriaeth heb wybodaeth na rhybudd digonnol. Mae’r ymgyrch honno’n ymwneud â cheisio dod o hyd i ffordd o liniaru hynny. Maent wedi cyflwyno cynnig ymarferol iawn ar gyfer gwneud hynny, ac mae’n un rwy’n credu y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn dymuno ei gefnogi.