<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:44, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd, nid oes rhaid i mi ddweud wrthych fod hwn yn faes hynod o gymhleth, ond mae’n un sy’n bwysig iawn i’n lles ariannol ni yma yng Nghymru yn y dyfodol. Ar fformiwla Barnett ei hun, yn amlwg, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd a cholli arian yr UE o ganlyniad i hynny yn gwneud diwygio Barnett yn fwy hanfodol nag o’r blaen hyd yn oed. Pa sicrwydd rydych yn ei geisio, neu rydych wedi’i gael eisoes, gan y Trysorlys fod y cyllid gwaelodol y cytunodd pawb ohonom arno yn barhaol? Ac a fydd yna adolygiad parhaus o fformiwla Barnett dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni dros Gymru, ac nad yw’r swm o arian rydym yn ei gael yn cael ei effeithio’n andwyol gan benderfyniadau ar draws y DU?