1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 29 Mehefin 2016.
Symudwn nawr i gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, croeso i chi yn eich rôl newydd a diolch i chi am eich trafodaethau cychwynnol gyda mi ynglŷn â rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu dros y tymor Cynulliad hwn.
Ysgrifennydd, dros yr wythnos ddiwethaf yn sicr, cafwyd newid seismig yn y tirlun gwleidyddol, newid a groesawyd gan rai yn fwy nag eraill yn y Siambr hon. Rydym yn awr yn wynebu nifer o gwestiynau allweddol ynghylch cyllido Cymru yn y dyfodol. Wrth i chi ddatblygu’r gyfundrefn dreth newydd a’r ddeddfwriaeth dreth newydd y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati ddoe, a allwch roi’r newyddion diweddaraf i ni ar y cynnydd a wneir ar y fframwaith cyllidol?
Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau agoriadol ac am gytuno i gyfarfod â mi i rannu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â’r heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae’n hollol iawn i ddweud bod y rheini’n cael eu siapio gan y tirlun sydd ohoni yn dilyn y refferendwm. Rwyf wedi cael trafodaeth eisoes â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cytunasom yn y sgwrs dros y ffôn y byddem yn cyfarfod cyn toriad yr haf, a’r cynllun y buom yn siarad amdano oedd cael cyfres o gyfarfodydd yn ystod yr hydref er mwyn cytuno ar y fframwaith cyllidol y bydd yn gwbl angenrheidiol i ni weithredu o’i fewn pan ddaw pwerau trethu yn uniongyrchol i Gymru. Mae’r cyfarfod cyn toriad yr haf wedi’i nodi yn y dyddiadur a bydd yn digwydd. Nid oes amheuaeth y bydd yn rhaid i ni raddnodi rhai o’r cynlluniau ar gyfer yr hydref yn ôl rhai o’r digwyddiadau—cyllideb bellach, er enghraifft—y gwyddom bellach eu bod yn mynd i ddigwydd.
Diolch i chi, Ysgrifennydd, ac fel y gwyddoch, rydym yn cefnogi eich gwaith ar ddatblygu fframwaith cyllidol effeithiol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn pryderu ers amser am y mecanwaith ar gyfer gwneud gostyngiadau i’r grant bloc yn dilyn datganoli treth, yn enwedig treth incwm. Pe baem yn cael y mecanwaith anghywir, gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol dros gyfnod o amser mewn ffordd a fyddai bron yn gorfodi cynnydd yn y dreth. Cafodd yr Alban gytundeb gyda’r Trysorlys na ddylai newidynnau megis newid yn y boblogaeth fod yn risg y dylai cyfran yr Alban o’r dreth incwm ei hysgwyddo ac y dylid ei chynnwys yn ffactor o’r grant bloc. A ydych yn ceisio cael yr un fargen i Gymru?
Mae’n hollol wir i ddweud bod yr Alban eisoes wedi bod o gwmpas y trac hwn o ran cytuno ar fframwaith cyllidol ar gyfer datganoli pwerau trethu i Senedd yr Alban. Mewn sawl ffordd, rydym yn ffodus ein bod yn eu dilyn o gwmpas y trac hwnnw, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi bod yn hael yn rhannu ei phrofiad gyda ni a rhoi ambell gipolwg i ni ar eu trafodaethau gyda’r Trysorlys. Ni fydd yn syndod i’r Aelodau yma a ddilynodd y stori yn y wasg glywed nad oedd y trafodaethau hynny bob amser yn hawdd a’u bod wedi cynnwys ambell ennyd chwerw. Roedd y chwerwedd yn ymwneud â’r egwyddor ‘dim niwed’ allweddol. I ni yma yng Nghymru, pan wneir addasiadau i’r grant bloc mae’n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried y trethi y byddwn yn awr yn eu codi yng Nghymru, fod yr addasiadau hynny’n adlewyrchu’r penderfyniadau sydd yn nwylo’r Cynulliad Cenedlaethol, penderfyniadau y mae’n rhaid i bob un ohonom fod yn barod i dderbyn cyfrifoldeb amdanynt, ac ni ddylent fod yn seiliedig ar benderfyniadau nad oes gennym unrhyw ddylanwad o gwbl arnynt. Roedd y dimensiwn poblogaeth y cyfeiriodd Nick Ramsay ato yn ganolog i rai o’r trafodaethau hynny. Dadleuodd Llywodraeth yr Alban yn llwyddiannus na ddylai’r addasiad i’r grant bloc gosbi’r Alban yn sgil newidiadau yn ei phoblogaeth a gâi eu dylanwadu’n fwy gan benderfyniadau San Steffan na phenderfyniadau a wneid yng Nghaeredin. Byddaf yn sicr yn disgwyl i unrhyw gytundeb ar gyfer Cymru adlewyrchu’r union ddull ‘dim niwed’ hwnnw.
Ysgrifennydd, nid oes rhaid i mi ddweud wrthych fod hwn yn faes hynod o gymhleth, ond mae’n un sy’n bwysig iawn i’n lles ariannol ni yma yng Nghymru yn y dyfodol. Ar fformiwla Barnett ei hun, yn amlwg, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd a cholli arian yr UE o ganlyniad i hynny yn gwneud diwygio Barnett yn fwy hanfodol nag o’r blaen hyd yn oed. Pa sicrwydd rydych yn ei geisio, neu rydych wedi’i gael eisoes, gan y Trysorlys fod y cyllid gwaelodol y cytunodd pawb ohonom arno yn barhaol? Ac a fydd yna adolygiad parhaus o fformiwla Barnett dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni dros Gymru, ac nad yw’r swm o arian rydym yn ei gael yn cael ei effeithio’n andwyol gan benderfyniadau ar draws y DU?
Unwaith eto, diolch i Nick Ramsay am y ddau bwynt pwysig hwnnw. Bydd yr Aelodau yma yn gwybod bod fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Jane Hutt, ar ôl llawer iawn o drafod, wedi llwyddo i gael cytundeb i gyllid gwaelodol gan y Trysorlys dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol. Yn y trafodaethau ar y fframwaith cyllidol byddwn yn dadlau’n galed dros sicrhau bod y cyllid gwaelodol hwnnw’n cael ei wneud yn barhaol. Mae angen iddo fod yn rhan barhaol o’r fframwaith hwnnw a’r tirlun y mae’n ei ddarparu yma yng Nghymru ac mae honno’n un o’r ffyrdd y bydd angen i’n trafodaethau fynd y tu hwnt i’r safbwynt a sefydlwyd yn yr Alban. Fodd bynnag, fel yr aeth Nick Ramsay ymlaen i ddweud, mae’r ansicrwydd a grëwyd gan y bleidlais yr wythnos diwethaf—nid yn syml o ran perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop ond y berthynas rhwng rhannau’r Deyrnas Unedig a’i gilydd hefyd—yn golygu bod angen adolygu fformiwla Barnett yn ei chyfanrwydd. Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU ar 27 Mehefin a dywedodd yn glir iawn yn y llythyr hwnnw mai dyma’r amser i archwilio ac ailedrych ar fformiwla Barnett. Dywedodd mai dyma’r amser yn sicr i gyflwyno fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion yng Nghymru fel bod ei dinasyddion yn gweld bod y Deyrnas Unedig ar y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi cydnabyddiaeth deg i’w hanghenion a’u hamgylchiadau. Ac rwy’n credu bod hynny’n gwbl gywir.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Mae’r wythnos ddiwethaf wedi dangos ein bod yn wlad ranedig yn wleidyddol, ond mae’n bosibl fod y rhaniadau economaidd yn ddyfnach hyd yn oed, a gallai hynny fod yn un o’r rhesymau sylfaenol dros y canlyniad. Mae’r Ysgrifennydd cyllid wedi nodi ei benderfyniad i ennill iawndal ariannol llawn i Gymru yn sgil y ffaith ein bod yn gadael yr UE ac mae newydd gyfeirio at yr angen i ddiwygio fformiwla Barnett. A gaf fi ofyn a yw ef neu ei swyddogion wedi gwneud asesiad cychwynnol bellach o’r diffyg ariannol y gallai Cymru ei wynebu? Ac o ystyried y gwacter gwleidyddol ar hyn o bryd, a all Llywodraeth Cymru droi hyn i fod o fantais i Gymru, nid yn unig drwy alw am ddiwygio fformiwla Barnett, ond drwy nodi’n fanwl pa fformiwla y byddent yn dymuno’i chael yn ei lle?
Diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Rwy’n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig wrth agor am y ffordd y mae patrymau pleidleisio yn y refferendwm yn dilyn llinellau economaidd ar draws y Deyrnas Unedig. O ran amcangyfrif effaith penderfyniad yr wythnos diwethaf ar Gymru, mae yna ddwy ffordd benodol sy’n rhaid i ni asesu hynny, ac mae un ohonynt yn haws na’r llall. Bydd yna golled uniongyrchol o arian Ewropeaidd a fyddai fel arall wedi dod i Gymru, rwy’n credu, yn ystod cyfnod presennol y cronfeydd strwythurol. Byddem wedi gallu cael cyllid yn ystod y cyfnod hwn tan 2023. Mae’n ymddangos y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn hynny a bryd hynny bydd ein gallu i gael cyllid Ewropeaidd yn dod i ben. Rydym wedi ymrwymo dros £700 miliwn o’r cylch presennol eisoes. Mae hynny’n 40 y cant o’r cyfanswm y byddem yn gallu ei gael yn ystod cylch 2014-2020 a byddwn yn ceisio cael cymaint o gyllid â phosibl o’r cronfeydd hynny. Dadleuodd Prif Weinidog Cymru yn ei lythyr at Brif Weinidog y DU y dylai fod yn trafod ar ein rhan i ni allu parhau i gael yr arian hwnnw dros holl gyfnod y cronfeydd strwythurol. Ond bydd yn rhaid i ni aros am ganlyniad y trafodaethau ar hynny. Ond o ran y ffigurau hynny rwy’n credu ein bod mewn sefyllfa dda i wneud asesiad—ac rwyf newydd grybwyll rhai o’r ffeithiau ynglŷn â hynny.
Yr ail ffordd yr effeithir ar Gymru gan ganlyniadau economaidd gadael yr Undeb Ewropeaidd fydd drwy’r gyllideb y gwyddom bellach y byddwn yn ei hwynebu yn yr hydref eleni: cyllideb y dywedir wrthym y bydd yn cynnwys codiadau treth a thoriadau gwariant cyhoeddus ac nid oes amheuaeth y bydd y toriadau gwariant hynny’n bwydo i mewn i gyllideb Cymru. Mae’n anos o lawer gwneud unrhyw asesiad o hynny, ond yn Llywodraeth Cymru byddwn yn sicr yn gwneud yr hyn a allwn i baratoi ar eu cyfer ar sail wrth gefn.
Mae’n iawn na ddylai Cymru, wrth gwrs, golli ceiniog o ganlyniad i golli’r cronfeydd strwythurol. Ond onid yw’n wir fod y lefel hon o gyllid yn angenrheidiol, ond yn annigonol? Oherwydd, hynny yw, dros y 17 flynedd ddiwethaf ers i ni fod ag Amcan 1, mae’r bwlch ffyniant wedi tyfu. ‘Does bosibl nad yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw lefel uwch o gymorth rhanbarthol, nid y lefel gyfatebol. Cynllun Marshall gyfer economi Cymru—nid yn unig cyllid ychwanegol, ond pwerau trethu newydd a allai roi mantais gystadleuol i Gymru yn y dirwedd economaidd newydd. O ystyried nad yw dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos yr Azores ar gystadleuaeth treth yn mynd i fod yn gymwys bellach, a fydd yn gwneud achos dros adael i Gymru, fel Gogledd Iwerddon, osod ei chyfraddau treth gorfforaeth ei hun, yn ogystal ag ennill pwerau eraill dros gredydau treth a lwfansau cyfalaf ymchwil a datblygu?
Wel, rwy’n credu y bydd pobl a wrandawodd ar yr honiadau a wnaed gan yr ymgyrch ‘gadael’ yn ystod y refferendwm wedi meddwl yn syml na fyddai Cymru yn gwneud mor dda ag y gwnaethom o dan y drefn flaenorol, ond y byddai llif newydd o arian i wasanaethau cyhoeddus, ac i’r lleoedd sydd ei angen fwyaf yn sgil y penderfyniad hwnnw. Ac wrth gwrs fel Llywodraeth Cymru byddem yn awyddus i ddadlau’r union achos hwnnw.
Bydd Bil Cymru, os yw’n cyrraedd y llyfr statud, yn rhoi rhai pwerau newydd i argymell trethi newydd yma yng Nghymru. Rwy’n credu y byddwn yn ddi-os eisiau trafod a ddylai treth gorfforaeth fod yn eu plith—yn bersonol rwyf bob amser wedi teimlo bod yr achos drosti yn wan iawn, ac yn llawer mwy tebygol o arwain at ras i’r gwaelod, lle byddwn yn cymryd llai o arian gan gorfforaethau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus nag y gwnaethom yn y gorffennol. Mae’n ddilema a welwch yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Wel, mae’r Ysgrifennydd Cyllid yn sôn am ras i’r gwaelod—mae’n rhaid i mi ddweud wrtho ei bod, yn economaidd, yn ras rydym ni yng Nghymru wedi’i hennill yn hawdd. A dyna’r broblem y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi. Nawr, mae gofyn i San Steffan am ysgogiadau cyllidol newydd yn ymateb pwysig i’r heriau economaidd y byddwn yn ddi-os yn eu hwynebu, ond mae hynny hefyd yn wir am ddefnyddio’r rhai sydd gennym yn awr yn fwy effeithiol. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu tair rhaglen gan ddefnyddio’r model dosbarthu dielw o ariannu buddsoddiadau, sy’n werth cyfanswm o £1.9 biliwn.
Roedd ffigurau a gynhyrchwyd gennym yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru y gallu i fwy na threblu’r ffigur hwnnw i £7.3 biliwn—tair gwaith y rhaglen gronfeydd strwythurol y cyfeiriodd ati. Wrth i ni aros i eraill weithredu ar ein rhan, onid yw’n bryd i ni, yn y Siambr hon, ddechrau dangos ein bod ni hefyd yn gallu bod yn feiddgar pan fo’r amgylchiadau’n mynnu hynny? Neu a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i ddangos yr un diffyg cynllunio priodol a diffyg arweinyddiaeth go iawn sydd ar hyn o bryd yn gwneud San Steffan yn Senedd o glowniau?
Wel, yn sicr nid oes angen i ni aros, oherwydd fel y dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, rydym eisoes wedi dechrau gwneud yn union hyn. Ceir tri chynllun sydd eisoes yn cael eu datblygu, ac ystod o gynlluniau eraill posibl a allai ddilyn yr un llwybr. Felly, mae’r model dosbarthu dielw yn fodd o geisio denu ffyrdd o ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn arbennig i mewn i economi Cymru, ar adeg pan fo cyfalaf cyhoeddus yn lleihau’n gyflym iawn.
Byddwn yn dysgu llawer, ac mae angen i ni ddysgu llawer, o’r tri chynllun rydym eisoes wedi dechrau eu datblygu, os gellir gwneud iddynt lwyddo. Mae llawer iawn o waith i’w wneud i ganfod a fyddant yn gallu llwyddo, ac mae cyd-Aelodau yn yr Alban sydd wedi bod o amgylch y cwrs hwn eisoes wedi gweld bod penderfyniadau dosbarthu nad oeddent wedi eu rhagweld, gan Eurostat a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, wedi golygu eu bod wedi gorfod ail-lunio’r cynlluniau a oedd ganddynt i gychwyn. Felly nid yw’n fater syml o allu cymryd rhywbeth oddi ar y silff y gallwch ei ddefnyddio. Efallai na fydd Eurostat yn broblem iddynt yn y dyfodol, ond fe fydd y Swyddfa Ystadegol Gwladol. Felly nid oes model y gallwch yn syml ei dynnu oddi ar y silff a’i ddefnyddio, a dweud, ‘brysiwch a gwnewch hynny’. Mae llawer i’w ddysgu i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu model sy’n iawn i Gymru. Mae gennym dri chynllun yn yr arfaeth; mae yna fwy yr hoffem ei wneud, neu bydd angen i ni ddysgu wrth i ni wneud iddo ddigwydd.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad diweddaraf. Mae’n ddrwg gennyf ei atgoffa ei fod unwaith yn gynghorydd lleol i mi ar hen Gyngor Sir De Morgannwg. Efallai y bydd yn fwy o ofid iddo fy mod yn cofio bod hyn oddeutu 30 mlynedd yn ôl; bachgen ifanc oeddwn i ar y pryd, wrth gwrs. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol. Gwelaf fod gan Sian Gwenllian gwestiwn wedi’i gyflwyno ar y pwynt hwn, ond cwestiwn rhif naw yw hwnnw ac mae’n bosibl na fyddwn yn ei gyrraedd, felly rwy’n gobeithio na fydd hi’n malio fy mod yn dwyn ei chwestiwn—[Torri ar draws.]
Esgusodwch fi. A gaf fi ddweud—? Rydych wedi gwrando ar lefarwyr pleidiau eraill gyda rhywfaint o dawelwch ac urddas, ac rwy’n disgwyl yr un peth i Gareth Bennett. Diolch.
Diolch, Lywydd. Rwy’n siŵr na fydd Sian yn malio fy mod yn dwyn ei chwestiwn, sef: beth yw’r amserlen ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol?
Diolch i Mr Bennett am ei sylwadau agoriadol ac am fy atgoffa am fy hanes gwleidyddol hir o 30 mlynedd yn ôl. Roeddwn yn gynghorydd y tro diwethaf y cafwyd ad-drefnu llywodraeth leol, i ddangos cymaint o amser sydd wedi bod ers i hynny ddigwydd. Mae’r amserlen rwy’n gobeithio ei dilyn fel a ganlyn: mae yna gyfnod angenrheidiol dros yr haf rwyf am ei dreulio’n gwrando a dysgu gan y rhai sydd â barn ar y mater hwn. Cyfarfûm ag undebau llafur llywodraeth leol y bore yma i glywed yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud, a byddaf yn cyfarfod ag awdurdodau lleol ac eraill. Rwyf eisiau gweld a oes modd creu rhyw fath o gonsensws ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Rwy’n cydnabod effaith andwyol oedi ar fywydau’r bobl sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol, a hoffwn ddod â hynny i ben cyn gynted ag y gallaf. Ond mae hynny’n dibynnu ar greu ymdeimlad o bwrpas cyffredin mewn perthynas â dyfodol trefniadau llywodraeth leol yma yng Nghymru. Os digwydd hynny’n gyflym, rwy’n gobeithio gallu cyflwyno datganiad yn gynnar yn yr hydref. Os yw’n cymryd mwy o amser, byddaf yn cyflwyno datganiad ychydig yn ddiweddarach yn yr hydref, ond dyna’r amserlen rwy’n ei dilyn ar hyn o bryd.
Diolch am eich sylwadau. Rwy’n falch o weld y byddwch yn ceisio sicrhau consensws a gobeithio y bydd canlyniad gwell na’r cynigion diwethaf a gawsom gan eich rhagflaenydd. Ond ar y pwnc hwnnw, beth fydd eich barn ar gynigion uno gwirfoddol megis yr un a gawsom rhwng Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr flwyddyn yn ôl, a wrthodwyd yn eithaf diseremoni gan Leighton Andrews?
Nid wyf yn credu y byddai’n iawn i mi i ddod i unrhyw gasgliad y prynhawn yma ar ôl dweud fy mod am dreulio cyfnod o amser yn gwrando a dysgu. Rwyf wedi cyfarfod â thua hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yn hyn, Lywydd, felly mae’r hanner arall ar ôl gennyf o hyd. Rwy’n cyfarfod â Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yfory, ac rwyf am ei gwneud yn glir iddynt fy mod i lawn mor agored i’r hyn sydd ganddynt hwy i’w ddweud ag unrhyw un y siaradais â hwy hyd yn hyn. Roedd nifer o’r bobl y cyfarfûm â hwy yn ystod hanner cyntaf fy ymweliadau o amgylch awdurdodau lleol yng Nghymru yn cefnogi rhinweddau uno gwirfoddol, ac mae gennyf feddwl agored iawn i glywed yr hyn sydd gan bobl eraill i’w ddweud. Nid wyf mewn unrhyw ffordd yn gwrthod eu barn ar y ffordd y byddwn yn gwneud busnes yn y dyfodol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Ond nid wyf am ddod i gasgliad nes y bydd pawb sydd â hawl i fod yn rhan o’r drafodaeth hon wedi cael cyfle i fynegi eu barn.
Diolch am hynny, Weinidog; mae’n swnio’n obeithiol. Mater arall sydd gennym ar hyn o bryd mewn nifer o ardaloedd, yn enwedig Caerdydd, yw datblygiadau tai mawr arfaethedig, sy’n aml yn cael eu gwrthwynebu gan drigolion lleol. Mae arllwys concrit dros gaeau gwyrdd yn ddisgrifiad eithaf addas o’r cynigion presennol ar gyfer Caerdydd, y cyfeiriodd Aelod rhanbarthol newydd Plaid Cymru atynt sawl gwaith. Nawr, roedd maniffesto Cynulliad UKIP yn cynnwys cynnig ar gyfer refferenda lleol ar ddatblygiadau tai mawr dadleuol. A fyddai’r Gweinidog yn ystyried deddfwriaeth o’r fath, ac a fyddai’n debygol o edrych yn ffafriol ar y math hwnnw o gynnig?
Cafodd Bil drafft ei gyflwyno gan fy rhagflaenydd, a oedd yn cynnwys llawer mwy na newid ffiniau ar fap yn unig. Roedd yn cynnwys cynigion ar gyfer newid refferenda lleol. Ni fyddent wedi gwneud hynny yn y ffordd y cynigiodd yr Aelod, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad ar hyn o bryd i symud i’r cyfeiriad yr oedd yn ei argymell.