Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 29 Mehefin 2016.
Mae’r wythnos ddiwethaf wedi dangos ein bod yn wlad ranedig yn wleidyddol, ond mae’n bosibl fod y rhaniadau economaidd yn ddyfnach hyd yn oed, a gallai hynny fod yn un o’r rhesymau sylfaenol dros y canlyniad. Mae’r Ysgrifennydd cyllid wedi nodi ei benderfyniad i ennill iawndal ariannol llawn i Gymru yn sgil y ffaith ein bod yn gadael yr UE ac mae newydd gyfeirio at yr angen i ddiwygio fformiwla Barnett. A gaf fi ofyn a yw ef neu ei swyddogion wedi gwneud asesiad cychwynnol bellach o’r diffyg ariannol y gallai Cymru ei wynebu? Ac o ystyried y gwacter gwleidyddol ar hyn o bryd, a all Llywodraeth Cymru droi hyn i fod o fantais i Gymru, nid yn unig drwy alw am ddiwygio fformiwla Barnett, ond drwy nodi’n fanwl pa fformiwla y byddent yn dymuno’i chael yn ei lle?