<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:55, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad diweddaraf. Mae’n ddrwg gennyf ei atgoffa ei fod unwaith yn gynghorydd lleol i mi ar hen Gyngor Sir De Morgannwg. Efallai y bydd yn fwy o ofid iddo fy mod yn cofio bod hyn oddeutu 30 mlynedd yn ôl; bachgen ifanc oeddwn i ar y pryd, wrth gwrs. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol. Gwelaf fod gan Sian Gwenllian gwestiwn wedi’i gyflwyno ar y pwynt hwn, ond cwestiwn rhif naw yw hwnnw ac mae’n bosibl na fyddwn yn ei gyrraedd, felly rwy’n gobeithio na fydd hi’n malio fy mod yn dwyn ei chwestiwn—[Torri ar draws.]