Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch am eich sylwadau. Rwy’n falch o weld y byddwch yn ceisio sicrhau consensws a gobeithio y bydd canlyniad gwell na’r cynigion diwethaf a gawsom gan eich rhagflaenydd. Ond ar y pwnc hwnnw, beth fydd eich barn ar gynigion uno gwirfoddol megis yr un a gawsom rhwng Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr flwyddyn yn ôl, a wrthodwyd yn eithaf diseremoni gan Leighton Andrews?