<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:58, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny, Weinidog; mae’n swnio’n obeithiol. Mater arall sydd gennym ar hyn o bryd mewn nifer o ardaloedd, yn enwedig Caerdydd, yw datblygiadau tai mawr arfaethedig, sy’n aml yn cael eu gwrthwynebu gan drigolion lleol. Mae arllwys concrit dros gaeau gwyrdd yn ddisgrifiad eithaf addas o’r cynigion presennol ar gyfer Caerdydd, y cyfeiriodd Aelod rhanbarthol newydd Plaid Cymru atynt sawl gwaith. Nawr, roedd maniffesto Cynulliad UKIP yn cynnwys cynnig ar gyfer refferenda lleol ar ddatblygiadau tai mawr dadleuol. A fyddai’r Gweinidog yn ystyried deddfwriaeth o’r fath, ac a fyddai’n debygol o edrych yn ffafriol ar y math hwnnw o gynnig?