Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 29 Mehefin 2016.
Y tebygolrwydd yw, o dan yr amserlen fwyaf arfaethedig ar gyfer tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, y bydd sefydliadau yng Nghymru—campws Abertawe yn un ohonyn nhw—yn dal â benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop wrth inni dynnu allan o Ewrop. A ydych chi wedi cael trafodaethau, felly, gyda’r Trysorlys a’r banc ynglŷn â sut mae’r benthyciadau presennol yn mynd i gael eu rheoli? A fydd rhaid symud y benthyciadau hynny i fanc arall, efallai ar dermau llai ffafriol, neu a fydd modd i fenthyciadau sy’n ddyledus heddiw gario ymlaen nes bod y benthyciad yn cael ei dalu?
Yr ail gwestiwn atodol i hynny, os caf, yw: a ydych chi’n ystyried, fel yr oedd Adam Price yn amlinellu, fel ymateb Llywodraeth Cymru i’r penderfyniad yma, bod angen banc buddsoddi i Gymru, beth bynnag?