Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Mehefin 2016.
I ateb cwestiwn atodol cyntaf Simon Thomas, nid wyf eto wedi cael trafodaethau uniongyrchol ar y mater pwysig hwn y mae’n ei nodi ynglŷn â gwasanaethau wedi’u lleoli yng Nghymru sydd eisoes mewn perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop y bydd angen iddynt ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw benderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae Banc Buddsoddi Ewrop ei hun wedi dweud nad yw’n gallu darparu unrhyw sicrwydd ar ystod eang o faterion sy’n ymwneud â’r cysylltiadau sydd ganddo ar draws y Deyrnas Unedig heb eglurder, fel y mae’n ei ddweud, ynglŷn â’r amgylchiadau amseru ac amodau setliad gadael. Ond mae’r trefniadau a fydd yn dilyn trefniadau sydd eisoes ar waith gan Fanc Buddsoddi Ewrop ar ôl i Brydain adael yr UE yn rhan bwysig o’r drafodaeth honno.
Yma yn y Siambr ddoe, trafodwyd trefniadau amgen a allai fod yn bosibl naill ai ar gyfer Cymru’n unig neu ar sail gydweithredol â gwledydd eraill y DU, a gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i’r awgrym y dylem fynd ar drywydd hynny gyda’n partneriaid eraill yn y DU.