Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 29 Mehefin 2016.
Rwy’n cytuno â’r Aelod, yn ddi-os, na ddylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu rhedeg er mwyn gwneud elw preifat. Dyna’r rheswm pam rydym ni yn y Llywodraeth hon bob amser wedi credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu’n gyhoeddus a’u darparu’n gyhoeddus. Nawr, mewn cyfnodau anodd iawn, rwy’n deall bod y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau weithiau’n gorfod edrych am ffyrdd eraill o ddarparu eu gwasanaethau. Y pryd hwnnw, gall modelau dosbarthu dielw cydfuddiannol gynnig dewis arall weithiau, ond ni ddylid mynd ar drywydd y dewis hwnnw oni chyrhaeddir y pwynt pan nad yw hi mwyach yn bosibl cynnal y model a ffefrir o wneud pethau drwy ddarparu’n gyhoeddus, cyflenwi’n gyhoeddus a chyllido’n gyhoeddus.