<p>Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:12, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mewn gwirionedd, rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ateb fy nghwestiwn yn ôl pob tebyg, ond rwyf am ei ofyn beth bynnag. Rwy’n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallwn i gyd fod yn falch yma yng Nghymru nad ydym wedi gweld gwasanaethau awdurdodau lleol yn cael eu preifateiddio ar raddfa eang fel y gwelsom yn Lloegr. Mae hynny’n seiliedig ar y rhagdybiaeth fod ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol ar eu gorau a’u mwyaf effeithlon pan gânt eu cadw’n fewnol a’u darparu gan weithlu a gyflogir yn uniongyrchol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am safbwynt y weinyddiaeth flaenorol, a oedd yn atgyfnerthu’r farn y dylid rhybuddio rhag preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ond hefyd na ddylid byth ystyried opsiynau eraill ar gyfer rhoi gwaith ar gontract allanol, gan gynnwys cwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol, oni bai mai dyma’r unig ddewis ar wahân i breifateiddio?