Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 29 Mehefin 2016.
Er ein bod yn cefnogi proses gaffael SquID yn gyffredinol mae’n deg dweud mai un o’r rhesymau pam, yn ôl pob tebyg, mai saith yn unig o’r 22 awdurdod lleol sy’n ei ddefnyddio—y pwynt a wnaed gan fy nghyd-Aelod Mike Hedges—oedd y ffaith fod llawer o fiwrocratiaeth yn dal i fod yno mewn gwirionedd i gwmnïau bach sy’n ceisio tendro am gyfrannau gwaith sydd i’w cael gan awdurdod lleol. Sut rydych yn bwriadu gweithio gyda’n hawdurdodau lleol dros y tymor nesaf i sicrhau bod y bunt yn parhau i gylchredeg yn ein hardaloedd ein hunain a’n bod yn caniatáu i rai o’r busnesau bach nad oes ganddynt amser i’w dreulio nac adnoddau i’w gwario yn ceisio dod o hyd i ffordd a llywio’u ffordd drwy’r fiwrocratiaeth hon, fel y gallant gael rhywfaint o waith mewn gwirionedd a rhywfaint o’r arian ar gyfer swyddi lleol?