Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig dweud bod ymchwil y Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn nodi mai saith yn unig o’r 22 cyngor sy’n defnyddio’r system yn llawn—mae llawer mwy ohonynt yn ei defnyddio ar gyfer rhannau o’r hyn y maent yn ei wneud. Felly, mae’n fater o adeiladu ar yr hyn y maent yn ei wneud yn barod a’i ddefnyddio’n mewn dimensiynau ehangach o’u gwaith. Rwy’n deall y pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â cheisio sicrhau cyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth. Mae dull SQuID wedi ei gynllunio’n fwriadol i geisio ei gwneud yn haws i gwmnïau bach cynhenid gystadlu am fusnes drwy sicrhau mynediad haws at gaffael a chontractau posibl. Rwy’n hapus iawn i ddweud y byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill sy’n ymwneud â’r maes hwn i leihau biwrocratiaeth ddiangen lle bynnag y gellir dod o hyd iddi.