Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i chi a’r Pwyllgor Busnes am ddewis y pwnc hwn i’w drafod fel dadl Aelod unigol. O ystyried y diddordeb helaeth y mae’r ddadl wedi’i sbarduno a nifer yr Aelodau Cynulliad a lofnododd y cynnig ar gyfer y ddadl, rwy’n credu bod y diddordeb yn y pwnc yn rhywbeth sydd wedi creu argraff ddofn arnom yn y Cynulliad.
Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, gydag ‘Ar Goll Mewn Gofal’, yr adroddiad a newidiodd y ffordd yr edrychem ar y system ofal yn fy marn i, ac mae wedi cael effaith ar draws y DU. Cafodd ei gyhoeddi bron i 17 mlynedd yn ôl, ac rwyf wedi dod â fy nghopi gyda mi. Mae’n dipyn o lyfr, fel y gwelwch. I mi, mae wedi creu argraff ar hanes y Cynulliad gan ei fod yn un o’r pynciau cyntaf un a fynnodd ein sylw o’r cychwyn ac mae’n bwnc sydd wedi aros gyda ni, mewn gwirionedd. Mae’r goblygiadau, yr argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn a’r materion sydd angen mynd i’r afael â hwy, yn parhau o hyd. Bu datblygiadau, ond mae llawer o’r heriau yn ein hwynebu o hyd. I mi, mae’n siom bersonol nad ydym wedi gwneud mwy o gynnydd, o bosibl. Byddaf yn trafod rhai o’r materion penodol y credaf fod angen i ni wneud llawer mwy yn eu cylch, ond wrth gwrs mae lles plant sy’n derbyn gofal yn rhywbeth y dylem ei ystyried bob amser. Nid yw’n flwch y gallwn roi tic ynddo ac yna symud ymlaen.
Roedd adroddiad Ronald Waterhouse mewn gwirionedd yn edrych yn benodol ar ofal yng Ngwynedd a Chlwyd yn y 1970au, 1980au a’r 1990au, ond canfuwyd llawer o’r problemau a nodwyd, fel y dywedais, ar hyd a lled y DU pan archwiliwyd y gwasanaethau’n drylwyr. O leiaf gallwn ddweud, ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, yn llygad y cyhoedd, fod lles plant sy’n derbyn gofal wedi cael ei bwysleisio ac wedi cael sylw mawr ymhlith y cyhoedd. Rwy’n tybio bod y sylw wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelu yn hytrach nag allbynnau a gwella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal yn uniongyrchol. Ond wrth gwrs, pan gyhoeddwyd yr adroddiad, yr enghreifftiau a’r achosion erchyll o gam-drin oedd yn mynnu sylw’r cyfryngau a’r cyhoedd. Gallaf ddweud, yn y Cynulliad cyntaf, yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ei fod wedi dominyddu’r gwaith a wnaethom yn llwyr, ac yn wir cafodd effaith wirioneddol, yn emosiynol ac yn wleidyddol, ar yr Aelodau. Os na chawn bethau’n iawn i blant sy’n derbyn gofal, rwy’n tybio bod yna berygl bob amser yn y dyfodol y byddwn yn llithro’n ôl mewn gwirionedd, ac y gwelwn ganlyniadau gwael dros ben unwaith eto, hyd yn oed mewn materion fel diogelu.
Rwyf am droi, felly, at y canlyniadau. Dylwn ddweud, o ran diogelu, nad oes lle i laesu dwylo, ond yn gyffredinol, oherwydd y cyfundrefnau arolygu a’r diddordeb sydd gan wleidyddion yn y materion hyn, mewn cynghorau ac yma yn y Cynulliad, ac ar lefel Lywodraethol—mae’n bosibl nad ydym yn canolbwyntio cymaint ar faterion diogelu nag y gwnaem bryd hynny o bosibl. Mae’n briodol ein bod yn symud ac yn edrych ar ganlyniadau, ac mae’n debyg, pan fyddwn yn edrych ar ganlyniadau, fod sicrhau cydweithio effeithiol rhwng gwahanol asiantaethau yn allweddol, oherwydd ein bod yn edrych ar iechyd, rydym yn edrych ar addysg, rydym yn edrych ar dai, rydym yn edrych ar sgiliau—mae’r holl bethau hyn yn perthyn i’w gilydd, naill ai’n uniongyrchol, i blant sy’n derbyn gofal, neu pan fyddant yn gadael gofal, ar gyfer rhai sy’n gadael gofal. Ond mae hefyd yn bwysig iawn fod cydweithio’n digwydd o fewn y Llywodraeth, ac rwy’n credu y byddai cydlynu gwahanol adrannau’n well yma yn rhywbeth a fyddai’n caniatáu darpariaeth gydgysylltiedig fwy effeithiol ymhlith amryw o asiantaethau cyhoeddus hefyd. Dylem adlewyrchu’r math hwnnw o gydlynu yn y Llywodraeth ei hun, gan nad yw’n destun pryder a gyfyngwyd i un adran benodol.
Yn hyn o beth, trof at adroddiad Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai a oedd yn galw, wrth edrych ar brofiad plant sy’n derbyn gofal yn y broses cyfiawnder troseddol, am ffurfio is-bwyllgor y Cabinet i ddarparu arweiniad cenedlaethol, ac yn wir, mae Llywodraeth San Steffan wedi ymateb ac wedi sefydlu is-bwyllgor. Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ffurfiad y Llywodraeth bresennol, wrth ei longyfarch a dymuno’n dda iddo gyda gwaith y Llywodraeth bresennol yn y pumed Cynulliad, gofynnais a fyddech yn edrych ar hyn, ac a fuasai’n bosibl sefydlu pwyllgor Cabinet yn Llywodraeth Cymru, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd bellach yn cael ei ystyried. Roedd Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai yn galw am gydweithio mwy effeithiol, rheoleiddio priodol a datblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru, felly dyna’r rheswm uniongyrchol pam y mae’r cynnig ger ein bron heddiw.
Wrth wraidd ein dull o ofalu am blant sy’n derbyn gofal, mae’r cysyniad o rianta corfforaethol. Nawr, awdurdodau lleol sy’n bennaf gyfrifol am hyn, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn yn wir i ni sylweddoli ein bod ni’n rhan o’r cyfrifoldeb hwnnw i gyflwyno rhianta corfforaethol effeithiol hefyd, a dyna pam rydym yn trafod y cynnig penodol hwn o ran sut y dylai’r Llywodraeth wella ei chydlyniad.
Mae nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu’n sylweddol ers cyhoeddi’r adroddiad ‘Ar Goll Mewn Gofal’, felly unwaith eto mae hyn yn dyblu’r angen i ni fod yn wyliadwrus yn y maes hwn a bod yn uchelgeisiol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Yn 1999, roedd 3,657 o blant mewn gofal; erbyn hyn mae’r nifer wedi codi bron 2,000 i 5,617. Camdriniaeth neu esgeulustod yw’r prif resymau o hyd dros roi plant mewn gofal, ac yn amlwg mae llawer ohonynt wedi cael profiadau heriol ac anodd dros ben. Felly mae gwaith gweithwyr proffesiynol yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn y maes hwn, gan fod sicrhau canlyniadau yn galw am ymrwymiad, uchelgais a llawer o ddyfalbarhad, ond mae angen i ni fod yn rhan o’r uchelgais hwnnw yma yn y Cynulliad.
Mae’r rhan fwyaf o blant sy’n derbyn gofal yn awr mewn lleoliadau maeth. Yn y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf, mae hyn wedi bod yn newid go fawr: o gartrefi preswyl i ofalwyr maeth. Ond nid yw’r lleoliadau hyn bob amser yn sefydlog. Yn 2015, y llynedd, roedd 9 y cant o’r plant a oedd yn derbyn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau gofal maeth mewn un flwyddyn, ac 20 y cant ohonynt wedi bod mewn dau neu fwy o leoliadau gwahanol. Felly, yn y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, roedd bron i draean o’r plant a oedd yn derbyn gofal wedi profi newid yn eu pecyn gofal.
Rwyf am ddweud ychydig eiriau am gyrhaeddiad addysgol. Rwy’n credu bod hwn yn faes pwysig, oherwydd mae’n debyg mai dyma’r dangosydd gorau sydd gennym o safon gyffredinol y gofal rydym yn ei roi i blant sy’n derbyn gofal. Nid dyna’r unig beth: cefais fy atgoffa yn gynharach heddiw mewn cyfarfod fod lles emosiynol plant sy’n derbyn gofal yn hanfodol ac yn wir, eu profiad addysgol yn ei gyfanrwydd; nid yw’n ymwneud â chyrhaeddiad addysgol yn unig. Buasech yn dweud hynny hefyd am y boblogaeth yn gyffredinol, ond mae’n fesur y gallwn ddod yn ôl ato ac mae’n rhoi data caled i ni. Rwy’n credu ei bod hi’n deg dweud ei fod wedi bod yn ffocws yn y Cynulliad dros y 15, 16, 17 mlynedd diwethaf mewn gwirionedd. Mae pethau wedi gwella, ond nid cymaint ag y byddem yn hoffi. Dim ond 18 y cant o blant mewn gofal sy’n cael pum TGAU gradd A i C, gan gynnwys Saesneg a mathemateg—18 y cant. Mae’n 58 y cant ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol. Felly, mae hynny 40 y cant yn fwy. Dim ond 7 y cant o’r rhai a oedd yn gadael gofal yn 19 oed oedd mewn addysg uwch. Felly, mae hynny’n 24 o fyfyrwyr ar hyn o bryd. Ac yn amlwg, o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, mae’n llawer iawn is.
Rwyf am ganmol peth o’r gwaith a wnaed, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyndyn o fynd i’r afael â’r problemau hyn, a chafwyd llawer iawn o ddatblygiadau polisi. Er enghraifft, o dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae Llywodraeth Cymru yn creu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal er mwyn gwella gweithio ar y cyd. Mae hynny’n bwysig. Ym mis Ionawr, cafodd strategaeth ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i godi cyrhaeddiad addysgol, ac roedd yn cynnwys galwad am fwy o uchelgais, ac rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn. Felly, mae gwaith yn digwydd ac mae angen cynnal y gwaith hwnnw a sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau rydym eu hangen.
I gloi, rwy’n credu, yn gyffredinol, y dylem anelu am arferion gorau rhagorol yng Nghymru. Wrth hynny, nid wyf yn golygu ailadrodd yr arferion gorau presennol, rwy’n golygu mynd â hwy ymhellach. Gallem fod yn arweinydd byd. Rydym wedi gwneud hyn o’r blaen. Er enghraifft, mae’r strategaeth anableddau dysgu, a ddechreuwyd yng nghanol yr 1980au, wedi trawsnewid y maes polisi cyhoeddus hwnnw ac arwain at newidiadau ar draws y byd. Roedd gennych bobl a oedd eisiau gweithio yng Nghymru o ben draw’r byd oherwydd ein bod yn datblygu’r maes polisi hwnnw mor effeithiol. Byddwn hefyd yn annog yr Aelodau i ddarllen yr argymhellion a wnaed gan grŵp o elusennau ym maes plant sy’n derbyn gofal adeg yr etholiad ar gyfer y pumed Cynulliad. Yno, pwysleisiwyd rhai pethau pendant iawn, megis y ffocws ar ganlyniadau, gyda phwyslais ar gyfrifoldeb rhieni corfforaethol—gan ein cynnwys ni, nid awdurdodau lleol yn unig—cydnabod lles emosiynol fel blaenoriaeth, gwella sefydlogrwydd gofal a lleoliadau addysgol, gwrando ar leisiau plant sy’n derbyn gofal, sy’n faes allweddol, a llety priodol a sefydlog ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod cyfranogiad plant sy’n derbyn gofal yn wirioneddol bwysig ym mhob dim a wnawn, gan gynnwys hyfforddi ac arolygu cyfleusterau? Yn yr holl bethau hyn, gallem gynnwys plant sy’n derbyn gofal yn llawer mwy effeithiol. Yn olaf, a gaf fi ddweud bod angen i ni werthfawrogi’r system ofal, oherwydd pan fo’r system honno’n gweithio gall ddarparu gofal a chyfleoedd rhagorol i blant sy’n derbyn gofal?