Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 29 Mehefin 2016.
Fel rhiant, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi fy mod yn siarad ar eu rhan, ac mae’n ofid i mi—a nifer ohonoch chi, rwy’n siŵr—yn aml nad oes gan blant sydd eisoes wedi cael dechrau anodd mewn bywyd rywun sydd â chariad ac angerdd rhiant i ymladd drostynt. Mae’r niwed a wnaed i gyfleoedd bywyd y plant hyn yn staen ar bob un ohonom, ac mae’r cyfrifoldeb i wneud yn well yn gyfrifoldeb i bob un ohonom—pob gwasanaeth, pob busnes, pob sector.
Hoffwn ganolbwyntio yn fyr ar un maes, gan ystyried yr hyn y mae David Melding wedi’i ddweud. A hoffwn dalu teyrnged sydyn i’r arweinyddiaeth y mae David Melding wedi’i ddangos yn y maes hwn dros nifer o flynyddoedd, wrth sefydlu ac arwain y grŵp hollbleidiol. Mae ganddo angerdd gwirioneddol a diffuant tuag ato, ac rwy’n falch iawn o weithio ochr yn ochr ag ef yn y grŵp hwnnw, fel Aelod newydd.
Soniodd am yr ystadegyn syfrdanol a oedd yn dangos, yng nghyfnod allweddol 4—y flwyddyn sy’n arwain at TGAU—fod gwahaniaeth o 40 y cant mewn perfformiad academaidd rhwng plant sydd wedi bod mewn gofal a’r rhai nad ydynt wedi bod mewn gofal. Dim ond 18 y cant o blant sydd wedi derbyn gofal sy’n cael pum TGAU gradd A i C. Felly, nid yw’n fawr o syndod fod Ymddiriedolaeth Buttle wedi canfod yn 2011 mai 7 y cant yn unig o’r rhai a oedd wedi gadael gofal oedd mewn addysg uwch. Fel y dywedais, staen ar bob un ohonom. Felly, mae’n amlwg fod angen i ni wneud llawer mwy ein hunain, ar bob cam o’r daith drwy’r ysgol, i gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal i gyflawni eu potensial.
Nawr, mae yna ganllawiau penodol ar waith, ar ffurf gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a llwybrau dysgu, sy’n datgan y bydd gan bobl ifanc 14 i 19 oed fynediad at gefnogaeth bersonol, drwy wasanaethau cymorth bugeiliol eu hysgolion neu eu sefydliadau. Ac mae llawer o enghreifftiau o ysgolion a cholegau addysg bellach yn darparu cymorth bugeiliol cryf ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Er enghraifft, mae colegau addysg bellach yn adrodd bod capasiti ychwanegol i helpu i gefnogi myfyrwyr yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae anogwyr dysgu dynodedig i ddarparu cyngor, cymorth addysgu, cyfeiriad ac eiriolaeth ar gael, ond maent yn gostus, a gwyddom fod addysg bellach wedi bod o dan straen nid yn unig o ran adnoddau ond hefyd, o dan bwysau cynyddol i gefnogi anghenion dysgwyr sy’n agored i niwed. Ond mae’n dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fyddwn yn penderfynu blaenoriaethu hyn.
Mae’r canllawiau cyfredol wedi dechrau creu cyfleoedd sy’n galluogi pob dysgwr i gael mynediad at gwricwlwm ehangach. Wrth benderfynu rhwng symud ymlaen i addysg bellach neu aros yn yr ysgol, bydd pobl ifanc yn dibynnu ar eu rhieni a’u perthnasoedd yn yr ysgol i lywio eu dewis. Ac mae’n amlwg fod angen cymorth penodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, ac rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried edrych ar y darpariaethau sydd ar waith i alluogi plant mewn gofal i gael y gefnogaeth orau wrth ddewis astudio mewn coleg addysg bellach, dysgu yn y gwaith, neu fynd i’r chweched dosbarth, ac ymlaen i addysg uwch, os ydynt yn dymuno hynny. Mae hyn eisoes yn ofynnol yn ôl canllawiau statudol, ond mae angen i ni fod yn fodlon fod yr ymdrechion presennol yn ddigonol. Diolch.