Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 29 Mehefin 2016.
Rwy’n falch iawn i gyfrannu at y ddadl hon er mwyn ceisio siarad dros anghenion y plant sy’n derbyn gofal yma yng Nghymru ac i dalu teyrnged i’r nifer o unigolion gwych sy’n gweithio gyda hwy, sy’n eu caru ac yn eu cefnogi. Oni bai am eu hymroddiad anhygoel i’n plant mwyaf agored i niwed, byddai llawer yn colli’r cysur a’r cariad unigol na all neb ond rhiant neu ofalwr ei roi. Mae’r ddadl hon yn dilyn adroddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a’r cysylltiad a wnaeth fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn galw am gydweithio da, rheoleiddio priodol a datblygu polisi ledled Cymru.
Mae ysgolion sy’n cynnwys disgyblion sy’n derbyn gofal yn gymwys am y cyllid grant amddifadedd disgyblion perthnasol, sydd, ochr yn ochr â Cymunedau yn Gyntaf, yn canolbwyntio ar ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, ond unwaith eto, mae yno i helpu plant sy’n derbyn gofal. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig, serch hynny, wedi mynegi ein pryder o’r blaen ynghylch y diffyg dulliau effeithiol o fesur canlyniadau’r grant hwn, a byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet heddiw i edrych ar hynny a gofyn pa ystyriaeth y bydd yn ei roi i effaith cyllid Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau addysgol plant sy’n derbyn gofal, yn enwedig mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Pa ddulliau o fesur canlyniadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar y grant amddifadedd disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau’n effeithiol i bob plentyn, gan gynnwys y rhai sy’n derbyn gofal?
Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chanfyddiadau dychrynllyd ymchwiliad Waterhouse, rydym wedi gweld nifer o strategaethau yn cael eu cyflwyno gyda’r nod o wella lles ac yn bwysicaf oll, gwella diogelwch ein plant. Fodd bynnag, rydym yn parhau i weld gwahaniaeth amlwg yn y canlyniadau ym mhob man, gyda rhai o’r ystadegau angen eu gwella. Mae gennyf brofiad o waith achos lle mae plant sy’n derbyn gofal mewn gofal maeth, ac yna maent yn symud ymlaen i gael eu mabwysiadu ac mae’n ymddangos bod diffyg cefnogaeth wedyn a bod cefnogaeth yn cael ei dynnu’n ôl mewn gwirionedd. Gwn fod teuluoedd wedi dod ataf yn eithaf gofidus, mewn gwirionedd, ac eisiau parhau i gael y gefnogaeth honno, oherwydd fel arall, os nad ydynt yn cael y gefnogaeth honno, yn eithaf aml, mae’n bosibl y bydd y plant hynny’n mynd yn ôl i ofal maeth neu yn ôl i ofal yr awdurdod yn y pen draw. Mae’n bwysig, os oes gennym deuluoedd sy’n barod i garu a magu’r plant hyn, eu bod yn cael pob cyfle a phob cefnogaeth. At hynny, nid oedd 45 y cant o’r rhai a oedd wedi gadael gofal yn 19 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac mae’r ffigur hwnnw’n cymharu â 34 y cant yn Lloegr a 31 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Felly, mae gwaith i’w wneud i godi’r ffigurau hynny.
Yr wythnos hon roedd Blind Children UK Cymru yn pryderu am y diffyg arbenigwyr sefydlu plant yng Nghymru ac unwaith eto, mae hyn yn dangos efallai nad yw ein plant mwyaf agored i niwed yn cael y math hwn o gymorth. Canfu Blind Children UK Cymru hefyd mai dau awdurdod lleol yn unig a adroddodd eu bod wedi cynnwys rhieni a phlant yn y broses o wneud penderfyniadau wrth ystyried a oeddent yn gymwys i gael gwasanaethau. Mae’n codi pryderon ynglŷn â’r modd y cynhwysir a’r modd yr ymgysylltir â phlant sy’n derbyn gofal a’u gofalwyr—yn enwedig y rhai sydd wedi cael mwy nag un lleoliad. Gwn fod gennyf, yn un o fy enghreifftiau, dri phlentyn mewn un teulu ac roedd eu hymdrechion hwy i gael mynediad at wasanaethau yn yr amgylchedd hwnnw yn rhwystredig iawn i’w rhieni mabwysiadol. Ar y nodyn hwn, rwy’n credu mai testun pryder mawr yw nodi bod 9 y cant o’n plant sy’n derbyn gofal wedi cael tri lleoliad neu fwy yn 2014-15 gyda 20 y cant arall wedi cael dau leoliad. Felly, mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn rhoi’r plant cywir gyda’r math cywir o deuluoedd a’n bod yn gwneud popeth yn ein gallu i’w cefnogi. Mae sefydlogrwydd a chysondeb yn sylfeini gwerthfawr a chysurol i fywyd cartref cynhyrchiol a chadarnhaol, ond rydym angen cydweithio rhagweithiol rhwng gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr maeth a phlant, gyda mewnbwn go iawn gan y plant drwy gydol y broses.
Lywydd, nid yn nwylo’r rhai sy’n cynnig help a chefnogaeth yn unig y mae dyfodol plant sy’n derbyn gofal, ond yn ein dwylo ni hefyd. Ac er gwaethaf pob pryder rwy’n eu lleisio heddiw, mae yna ganlyniadau cadarnhaol a gwych yn wir i blant sy’n derbyn gofal ar draws Cymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau cysondeb—pontio di-dor a darpariaeth ddi-dor o ofal a chymorth. Rydym angen dull cydweithredol, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol, gweithwyr cymdeithasol, ysgolion, y trydydd sector ac yn bwysicaf oll, plant a’u gofalwyr maeth yn rhan o’r gwaith o ddatblygu cynlluniau gofal priodol a’n bod yn rhoi camau ar waith i wella’r addysg a’r ymgysylltiad yma er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol i’r plant anhygoel hyn ledled Cymru.