Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi crybwyll hyn, ond pa waith rydych wedi’i wneud ar edrych ar y cyfnod pontio rhwng 18 oed a’r cyfnod pan fydd plant mewn gofal yn dod yn oedolion? Oherwydd rwyf wedi siarad â nifer o bobl ifanc sy’n teimlo bod y pontio’n rhy sydyn, a’u bod yn mynd o amgylchedd gofalgar a diogel iawn, i amgylchedd lle nad ydynt yn teimlo’u bod yn barod i ymdrin â’r byd.