Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 29 Mehefin 2016.
Rwy’n derbyn yr ymateb y mae’r Prif Weinidog wedi’i roi. Rwy’n derbyn y pwynt nad yw’n sefyllfa sy’n digwydd yn San Steffan, sef gwrandawiadau cadarnhau, ond onid ydych yn credu na ddylem geisio ailadrodd yr hyn a wna San Steffan bob amser? Byddai hyn yn torri tir newydd, oherwydd bod cynghorwyr arbennig yn rhan bwysig o bensaernïaeth y Llywodraeth, a byddai cael math o wrandawiad cadarnhau yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â’r rôl y maent yn ei chyflawni wrth gynghori Gweinidogion.