Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 29 Mehefin 2016.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl benodol hon am fy mod, wrth gwrs, yn dod o ardal lle mae ansawdd yr aer yn dda iawn, iawn mewn gwirionedd—ar arfordir gogledd Cymru. Yn wir mae mor dda fel ei fod yn arfer bod yn un o’r lleoedd hynny yr arferid buddsoddi yn eu gwasanaethau iechyd er mwyn gofalu am bobl yr effeithiwyd arnynt gan ansawdd aer gwael o lawer o’r dinasoedd mewn dyddiau a fu. Felly, roedd Ysbyty Abergele, er enghraifft, yn ysbyty a sefydlwyd i drin unigolion yn dioddef o TB a chyflyrau eraill yr ysgyfaint, oherwydd ansawdd rhagorol yr aer yn yr ardal honno. Ond gwn fod hon yn broblem i lawer o rannau eraill o Gymru. Fel David Rees, rwy’n cytuno bod yr UE, a’n haelodaeth ohono, wedi helpu i wella ansawdd aer mewn gwirionedd, a diolch byth am hynny. Mae’n amser hir ers i ni gael unrhyw beth tebyg i’r math o fwrllwch dinesig yr arferem ei weld fel cenedl, ac a laddai filoedd ar filoedd o unigolion bob blwyddyn. Roeddwn yn edrych ar un o’r dogfennau briffio ar gyfer y ddadl heddiw, a deall bod mwrllwch Llundain yn 1952 wedi lladd 12,000 o bobl, sy’n nifer anhygoel os meddyliwch am y peth. Felly, er ein bod wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, fel y dywedodd Simon Thomas yn ddigon cywir, mae’n frawychus ein bod yn dal i weld mwy o farwolaethau o lygredd aer ac o aer o ansawdd gwael nag o ddamweiniau traffig ar y ffyrdd. Rwy’n credu y dylai hynny ysgogi pawb ohonom i fod eisiau gweld mwy o weithredu ar y mater hwn.
Mae llawer o bobl wedi cyfeirio at iechyd y cyhoedd. Wrth gwrs, mae effaith llygredd aer mewn gwirionedd yn dechrau cyn i rywun gael ei eni mewn gwirionedd. Felly, rydym yn creu baich i’r genhedlaeth nesaf yn y groth yn ystod beichiogrwydd tra bo’r ysgyfaint yn datblygu mewn gwirionedd oni bai ein bod yn mynd ati o ddifrif i oresgyn y broblem hon. Wrth gwrs, os oes gennych ysgyfaint nad yw wedi datblygu’n llawn—os nad yw capasiti eich ysgyfaint wedi datblygu’n llawn—mae hynny’n effeithio arnoch drwy gydol eich oes ac yn eich henaint, ac yn aml cafodd pobl sy’n byw gyda chlefydau cronig yr ysgyfaint eu magu mewn ardaloedd llawn mwg neu ardaloedd dinesig pan oeddem yn wynebu problemau gydag ansawdd aer mewn dyddiau a fu.
Nid oes neb hyd yn hyn wedi cyfeirio’n helaeth at lygredd aer dan do. Wrth gwrs, fe wyddom fod honno hefyd yn broblem ar draws Cymru ac yma yn y DU, ac nid yr hyn sydd yn y penawdau’n unig, megis gwenwyn carbon monocsid, sy’n dal i fod yn broblem yn llawer rhy aml yma yng Nghymru yn sgil y ffaith nad yw pobl yn trefnu archwiliad i’w cyfarpar nwy yn y cartref. Rwy’n meddwl hefyd mewn gwirionedd y gallem roi camau ar waith ar hynny drwy’r system reoleiddio, i wneud cyfarpar carbon monocsid yn ofynnol a phrofi offer yn y dyfodol yn yr un modd ag y mae gennym larymau tân yn ein cartrefi. Credaf fod hynny’n rhywbeth y mae angen ei ystyried yn y dyfodol.
Nid oes neb ychwaith wedi crybwyll effaith asbestos yn rhai o’n hadeiladau cyhoeddus—ac rwy’n gwybod bod hwn yn fater y mae fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay wedi bod yn ei hyrwyddo yn y gorffennol—o ran gweddillion asbestos sy’n dal i fod yn bresennol mewn llawer o’n hysgolion yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni symud ymlaen i roi sylw iddo yn awr, o gofio bod asbestos wedi bod ar safle llawer o’r adeiladau hyn ers y 1960au. Heb sôn am y ffaith mai’r peth arall sy’n effeithio ar ansawdd aer dan do, wrth gwrs, yw cynnyrch glanhau, weithiau, a phethau syml fel ffresnydd aer, sy’n aml iawn yn achosi pethau fel asthma mewn pobl ag asthma a phroblemau eraill, a phobl sydd â chyflyrau ysgyfaint y gall pethau o’r fath eu gwaethygu. Felly, rwy’n credu bod llawer iawn y gallwn ei wneud drwy’r fframwaith rheoliadol yma yng Nghymru i ategu camau a roddir ar waith ar lefel y DU a thu hwnt i wella ein perfformiad. Hefyd, ni ddylem anwybyddu’r ffaith fod llawer o’r llygryddion aer hyn hefyd yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd. Mae hynny ynddo’i hun yn creu costau i bwrs y wlad o ran ceisio mynd i’r afael ag effaith newid yn yr hinsawdd, yn enwedig llifogydd, sydd wedi bod yn broblem fawr yma yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Mae un pwynt olaf yr hoffwn ei wneud, ar rôl coed i helpu i fynd i’r afael â llygredd aer. Gwyddom fod coed a llystyfiant, yn enwedig yn ein hardaloedd dinesig, nid yn unig yn ychwanegu at atyniad yr ardaloedd hynny, ond hefyd yn helpu i hidlo aer mewn modd cadarnhaol iawn ac yn effeithio’n gadarnhaol ar ansawdd aer yn ein trefi a’n dinasoedd. Felly, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried y pethau hyn wrth iddi ystyried datblygu’r strategaeth ansawdd aer yn y dyfodol.