<p>Trafodaethau â Chwmnïau Angor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

O ystyried y byddai hynny'n sicrhau mynediad at y farchnad sengl, ac mai dyna'r unig fodel sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, mae'n rhaid mai ‘ydw’ yw’r ateb. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni dderbyn y byddai hynny'n golygu symudiad rhydd pobl ac, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o bobl wedi pleidleisio ar y mater hwnnw, uwchben y mater o swyddi, a dweud y gwir—fe’i clywais ar garreg y drws—yn y refferendwm wythnos i ddydd Iau diwethaf. Yr anhawster yw: ar hyn o bryd, nad oes model sy'n cael ei gynnig a fyddai'n caniatáu mynediad at y farchnad sengl heb gael symudiad rhydd pobl hefyd. Nid yw Norwy wedi ei wneud; nid yw’r Swistir wedi gallu ei wneud. Y model AEE yw hwn yn syml. Y gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw syniad gwirioneddol o ba fath o fodel allai weithio yn y dyfodol, sy'n dangos ansicrwydd yr oes yr ydym ni’n byw ynddi, a dyna pam yr ydym ni eisiau rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallwn, o safbwynt Llywodraeth Cymru, ac, yn ail, pa sicrwydd y mae angen ei roi cyn gynted â phosibl ar lefel y DU.