Mawrth, 5 Gorffennaf 2016
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0088(FM)
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer Bargen Ddinesig Caerdydd? OAQ(5)0097(FM)
Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyfleusterau meddygfeydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0089(FM)[W]
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0092(FM)
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiadau tai cymdeithasol arfaethedig yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0086(FM)
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â chwmnïau angor, fel Airbus, yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE? OAQ(5)0094(FM)
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoliadau Ewropeaidd ôl-Brexit yn ymwneud â llygredd aer? OAQ(5)0100(FM)
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r risgiau i economi Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn gwarantu pob ceiniog o gyllid a gaiff ei ddarparu i Gymru ar hyn o bryd gan yr UE? OAQ(5)0101(FM)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Rŷm ni’n symud ymlaen nawr at yr eitem nesaf, eitem 3: cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T yn ymwneud â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Rwy’n galw...
Yr eitem nesaf felly ar yr agenda yw’r cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau. Mae 13 cynnig o dan yr eitem hon a byddant yn cael eu trafod gyda’i gilydd. Rwy’n galw ar aelod...
Rŷm ni’n symud ymlaen nawr at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ddatganoli trethi a’r fframwaith cyllidol, ac rwy’n galw...
Rydym nawr yn symud ymlaen i’r eitem nesaf, sef y datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y tasglu gweinidogol ar y Cymoedd. Ac rwy’n galw ar y Gweinidog, Alun Davies.
Mae Eitem 7 wedi cael ei thynnu'n ôl.
Felly, symudwn yn syth at eitem 8, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar fygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid, y tafod glas a gwaith cynllunio wrth...
Hoffwn alw yn awr ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Bethan Jenkins.
Yn awr, rŷm ni’n symud ymlaen i’r cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw’r bleidlais ar y cynigion i ethol Aelodau i’r saith pwyllgor polisi a...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant amaethyddol yn Sir Drefaldwyn?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia