<p>Trafodaethau â Chwmnïau Angor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:08, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, ac nid wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd eich bod chi’n rhan o hynny, yn ystod y 1970au, bod Ffrainc a Phrydain wedi cydweithio i adeiladu Concorde? Rwy’n credu mai 'entente cordiale' oedd ei enw, ymhell cyn i ni ddod yn aelodau o'r UE. Y casgliad o hyn, wrth gwrs, yw y bydd materion yn Airbus yn parhau yr un fath a bod y ddadl hon nawr yn enghraifft arall o godi bwganod, a gawsom ni cyn Brexit ac sy’n parhau nawr ar ôl Brexit.