Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd Dros Dro; mae’n braf eich gweld chi yn y gadair. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru dros dymor diwethaf y Cynulliad. Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2016, roedd y gyfradd gyflogaeth yn agos i ffigur uwch nag erioed o’r blaen o 71.9 y cant, ac yn llawer uwch na’r gyfradd o 65 i 67 y cant a welwyd yng nghanol a diwedd y 1990au a blynyddoedd cynnar y 2000au. I roi hyn mewn cyd-destun, erbyn hyn mae bron i 1.5 miliwn o bobl mewn gwaith yng Nghymru. Mae'r llwyddiant hwn yn barhâd o duedd tymor hwy. Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 18.7 y cant ers datganoli, o'i gymharu â chynnydd o 16.5 y cant ar gyfer y DU yn ystod yr un cyfnod. Mae hynny'n 227,000 o bobl ychwanegol mewn gwaith yng Nghymru ers dechrau'r Cynulliad.
Er bod polisi cyflogaeth yn parhau i fod yn faes nad yw wedi ei ddatganoli, ni ddylid diystyru cyfraniad Llywodraeth Cymru i’r perfformiad anghymesur o gryf hwn drwy ein rhaglenni sgiliau a chyflogaeth a’n buddsoddiad yn yr economi . Dros dymor diwethaf y Cynulliad, rydym wedi cyflwyno'n llwyddiannus nifer o raglenni arloesol a oedd yn ymateb i heriau'r hinsawdd economaidd y gwnaethom ganfod ein hunain ynddo. Mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru yn un enghraifft. Cafodd ei lansio ym mis Ebrill 2012, gan ymateb yn gyflym i bwysau eithriadol y dirwasgiad a welodd bron i chwarter y bobl ifanc rhwng 16 a 24 yng Nghymru yn ddi-waith. Roedd y rhaglen yn ceisio cynnig troed yn y drws gyda chyflogwr i bobl ifanc nad oedd ganddynt fawr o brofiad, neu ddim profiad, o weithio, a'r cyfle i ennill chwe mis o brofiad o waith go iawn gyda’r disgwyliad y byddent yn cael eu cadw ar ôl i’r gefnogaeth gan Twf Swyddi Cymru ddod i ben. Mae un mil ar bymtheg, a thri chant o bobl ifanc yng Nghymru wedi cymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru ers 2012. Ar gyfer Twf Swyddi Cymru, gwnaeth 75 y cant o'r bobl ifanc yn llinyn sector preifat y rhaglen, a gwblhaodd gyfle chwe mis, naill ai gadw eu swyddi neu ddilyn rhagor o addysg. Nid wyf yn gwybod am unrhyw raglenni tebyg eraill sy'n gallu brolio ffigurau o'r fath.
Ers cychwyn y rhaglen ReAct II ym mis Hydref 2008, mae dros 28,000 o weithwyr y tarfwyd ar eu gyrfaoedd gan ddiswyddiad wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i ennill sgiliau newydd a dychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Mae'r gwaith da hwn wedi parhau gyda lansiad ReAct III y llynedd. Fodd bynnag, mae'r hinsawdd economaidd wedi newid ac mae angen i’n cyfres o gymorth cyflogadwyedd addasu i adlewyrchu'r amgylchedd newydd yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddo.
Mae gan Gymru heriau cyflogaeth sylweddol o hyd ynghylch ein lefelau sgiliau, y crynodiad gofodol o ddiweithdra ac anweithgarwch, a gyda’r bygythiad parhaus o ddiswyddiadau yn rhai o'n diwydiannau strategol allweddol. Mae angen i’n cefnogaeth cyflogadwyedd foderneiddio i ymateb yn effeithiol i'r heriau hyn. Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu bod ein cyfres bresennol o raglenni yn rhy gymhleth a thameidiog, gan ei gwneud yn anodd datblygu llwybr cydlynol i gyflogaeth i geisiwr gwaith gan arwain at gefnogaeth a all fod yn anhyblyg weithiau wrth ymateb i anghenion yr unigolyn.
Ceir newidiadau ehangach hefyd i bolisi ar lefel y DU, a fydd yn cael effaith sylweddol ar ddarparu hyfforddiant sgiliau i bobl ddi-waith yng Nghymru. Mae cyflwyno Rhaglen Gwaith ac Iechyd newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn 2017 yn gyfle i gyfochri ehangder y cymorth cyflogaeth sydd ar gael i unigolion ledled Cymru yn fwy effeithiol. Bydd ein cyfranogiad gweithredol yn y gwaith o gomisiynu'r contract newydd hwn yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o’r Rhaglen Waith a ddarperir ar hyn o bryd a bod anghenion y farchnad lafur yng Nghymru yn ei chyfanrwydd yn cael eu hymgorffori wrth gynllunio rhaglenni yn y dyfodol. Bydd y rhaglen newydd hon gryn dipyn yn llai na Rhaglen Waith bresennol yr Adran Gwaith a Phensiynau a bydd hyn yn golygu y bydd mwy o unigolion yn ceisio cael gafael ar gymorth gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i amcangyfrif effaith y newidiadau hyn o ran nifer y bobl y bydd angen i ni gynnig cefnogaeth iddynt a'r math o gymorth y bydd ei angen. Bydd y ddau ffactor hyn yn gofyn am newidiadau i'n rhaglenni cyflogadwyedd ein hunain.
Gwnaethom amlinellu yn ein maniffesto y byddem yn creu rhaglen gyflogadwyedd newydd i gefnogi unigolion o bob oed i ddod o hyd i waith o ansawdd da. Rydym eisiau i’r gefnogaeth hon gael ei theilwra i anghenion unigol a, phan fo hynny'n briodol, ei chyfochri â chyfleoedd swyddi sy'n dod i'r amlwg mewn cymunedau lleol. Ein nod yw dwyn ynghyd y gweithgareddau o’n prif raglenni cyflogadwyedd, Twf Swyddi Cymru a ReAct, hyfforddeiaethau a’n rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd mewn un rhaglen cymorth cyflogadwyedd a fydd yn diwallu yn well anghenion y rhai sydd angen cefnogaeth i gael, cadw, a symud ymlaen mewn gwaith.
Mae'r rhaglen newydd yn cael ei datblygu gan ddefnyddio'r dystiolaeth a’r ymchwil ddiweddaraf i’r ddarpariaeth o raglenni marchnad lafur effeithiol. Bydd yn cael ei llywio gan werthusiadau o'r rhaglenni Barod am Waith, Twf Swyddi Cymru a ReAct, y cynlluniau arbrofol Amodoldeb Sgiliau, y gwnaethom eu cynnal gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, a'r gwaith gwerthuso ac adolygu hyfforddeiaethau. Mae gennym gyfoeth o dystiolaeth ar gael i ni ynglyn â’r hyn sy'n gweithio.
Rhagwelir y bydd ein rhaglen newydd yn dechrau darparu o fis Ebrill 2018 ymlaen. Rhwng nawr a’r adeg honno byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau arbrofol gyda cholegau addysg bellach a’n rhwydwaith presennol o ddarparwyr dysgu yn y gwaith i brofi gallu a pharodrwydd y sectorau i arloesi ac ymateb yn hyblyg i anghenion unigolion a chyflogwyr, a chyda Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith a'r awdurdodau lleol i gynnal profion ar y prosesau asesu, atgyfeirio a pharu swyddi. Rydym hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau i rai o'n rhaglenni presennol er mwyn ein galluogi i bontio’n llyfn i ddarpariaeth ein rhaglen i bob oed.
Bydd ein rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd yn adlewyrchu ymagwedd wahanol at ddarparu gyda mwy o bwyslais ar leoliad gwaith a chefnogaeth barhaus pan fydd unigolyn wedi cael gwaith. Byddwn yn parhau i gyflwyno Twf Swyddi Cymru tan fis Mawrth 2018, ond ar gyfradd is o gymhorthdal cyflog, gan adlewyrchu'r hinsawdd economaidd well a chanfyddiadau'r gwerthusiad, wrth barhau i gydnabod pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc gymryd y cam cyntaf i waith. Mae hon yn amserlen heriol ac yn rhaglen gymhleth o waith, ond rwy'n hyderus y bydd yn arwain at raglen fwy addas a hyblyg er mwyn ymateb i heriau’r farchnad lafur a’r cyfleoedd a wynebwn, nawr ac yn y dyfodol. Diolch.