Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Gan ddilyn fy nhrefn arferol, byddaf yn ateb yr un olaf yn gyntaf ac yn gweithio tuag at yn ôl, dim ond oherwydd mai dyna sut mae fy ymennydd yn gweithio.
O ran y rhaglen ariannu cyffredinol, ydym, rydym ni’n mynd i gymryd yn ganiataol, oherwydd dywedwyd wrthym ar sawl achlysur, y bydd Lywodraeth y DU yn darparu’r diffyg ariannol i Gymru yn sgil agenda Brexit. Fel y clywsom yn gynharach, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, rydym wedi cael yr addewid hwn lawer gwaith ac rydym yn mynd i gymryd yn ganiataol bod hynny'n wir tan y byddwn yn clywed yn wahanol. Rwyf am ddweud hyn, fodd bynnag, a dywedais hyn yn fy natganiad ar brentisiaeth wythnos neu ddwy yn ôl: nid dim ond arian yr ydym ni’n ei gael gan yr UE, rydym yn cael cyfleoedd ymchwil, rydym yn cael cyfleoedd cyfnewid, mae ein pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu oddi wrth bobl eraill sy'n ymgymryd â rhaglenni galwedigaethol a swyddi dan hyfforddiant a phrentisiaethau. Rwy’n yn mawr obeithio, yn y trafodaethau yr ydym yn awr yn cychwyn arnynt gyda'r UE, y bydd y cyfleoedd diwylliannol a dysgu hyn, y mae Cymru wedi bod yn arweinydd ac yn fuddiolwr o'r dysgu ar y cyd sydd wedi ei gynnal, yn gallu parhau i ddigwydd. Nid yr arian yn unig sy’n bwysig yn y pethau hyn. Mae'n ymwneud yn helaeth â’r hyn sy'n gweithio.
O ran rhai o'ch cwestiynau eraill, gallaf eich sicrhau nad oes unrhyw gwestiwn o wneud arbedion ariannol yn hyn. Nid yw hyn yn ymwneud â'r gyllideb gyffredinol. Mae hyn yn ymwneud â'r rhaglen llwybrau sgiliau. Rwy’n credu eich bod wedi chwifio'r fersiwn bapur o honno. Mae'n edrych ychydig fel map o’r tiwb. Y syniad yw eu gwneud yn rhywbeth llawer mwy syml i’w defnydddio i bobl sy’n dderbynnydd un o'r rhaglenni neu yn wir fel cynghorydd—rhiant efallai os ydych yn ifanc, neu bartner, ac yn y blaen—yn cynghori rhywun drwy'r rhaglen. Felly, map rhyngweithiol yw’r hyn yr ydych yn edrych arno yn y fan yna. Dylech fod yn gallu clicio ar y nôd a dylai ddweud wrthych ble’r ydych chi, a dylech chi fod yn gallu dilyn yn weddol gyflym i gael eich hun at y peth iawn.
Rydych chi wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y Cynulliad blaenorol mai’r anhawster â’r rhaglenni cyflogadwyedd yw nad ydych yn dymuno, o dan unrhyw amgylchiadau, creu un rhaglen sy’n addas i bawb. Mae pobl yn unigolion; mae angen cymorth unigol arnynt. Yn aml, nid yw un pecyn ar gyfer pawb yn addas ar eu cyfer. Felly, mae hyn yn ymwneud â theilwra’r pecynnau hynny. Mae'r rhaglenni cyflogadwyedd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond mae angen amrywiaeth wahanol o gymorth ar bobl sy’n bellach i ffwrdd o’r farchnad swyddi, i'w cael i mewn i’r cyfleoedd cyflogaeth hynny ac i’w cadw yno mewn gwirionedd. Nid dim ond cael y swydd ac yna cerdded i ffwrdd yw hyn; mae'n ymwneud â’u cadw yn y swydd honno a sicrhau bod y dulliau cymorth ar waith i'w cynnal yno. O bethau syml fel y ffaith mai eich mis cyntaf yn y gwaith weithiau yw’r mis drutaf y byddwch chi byth yn ei brofi—nid ydych chi wedi cael cyflog ac mae gennych yr holl gostau i’w talu. Felly, mae'n rhywbeth syml o’r math hwnnw, hyd at bob un o'r anawsterau o fynd trwy fywyd teuluol, gwaith ac yn y blaen os ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod sylweddol o amser. Felly, mae hyn yn ymwneud â theilwra cyfres o raglenni llwyddiannus ar gyfer unigolion sy’n fwy anodd eu cyrraedd wrth i'r pwyslais economaidd gau.
Nawr, nid ydym yn gwybod beth fydd canlyniad trafodaethau yr Undeb Ewropeaidd, felly y peth arall yw bod yn hyblyg yn wyneb ansicrwydd. Felly, mae hyn yn ymwneud â gwneud y rhaglenni mor hyblyg â phosibl i ymateb i ddyfodol ansicr. Efallai bydd gennym rywfaint o dwf, ac os felly mae angen i ni ymateb i unigolion sy’n fwy anodd eu cyrraedd; mae'n bosibl y bydd gennym ddiswyddiadau ac yn y blaen, ac os felly mae angen i ni ymateb, yn effeithiol, â dulliau rheoli argyfwng tymor byr, fel gyda ReAct. Felly, mae'r rhaglenni hyn yn cael eu cynllunio i fod mor hyblyg â phosibl o fewn y cyfyngiadau y maent yn gweithredu oddi mewn iddynt.
Y peth olaf yr wyf eisiau ei ddweud am hynny yw nad yw'n un brand, er ein bod yn ei alw yn llinynnau Sgiliau Cyflogadwyedd. Bydd rhaglenni unigol yn rhan ohonynt, ond y syniad yw eu gwneud yn hyblyg, caniatáu i bobl symud yn ôl ac ymlaen. Rydym yn cael peth anhawster wrth drafod â'r Adran Gwaith a Phensiynau am eu bod hwy eu hunain wedi newid paramedrau eu rhaglen a bod yr amodau wedi newid, i gymysgu fy nhrosiadau dros bob man. Mae'r amodau wedi newid yn eithaf sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf. Rydym mewn trafodaethau manwl â nhw a gyda'r cytundebau dinesig amrywiol o amgylch Cymru a'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod gennym gynnig cydlynol sy'n cyfateb â chynnig Llywodraeth y DU ac yn y blaen.
I ateb eich cwestiwn cyntaf yn olaf, o ran datganoli, byddem yn hoffi cael rhagor o bwerau ynghylch sut i asesu pobl a sut i'w cael ar y rhaglenni, ond byddwch yn gwybod ein bod wedi dweud ers tro na fyddwn yn derbyn rhai o’r canlyniadau llai effeithiol—yn fy marn i—gyda rhaglenni'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel gorfodi a chosbi, er enghraifft. Felly, mae’n ymwneud â’r hyn y gallwn ei negodi er mwyn cadw ein rhaglenni cyflogaeth yn agored ac yn dderbyniol i bawb.