Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rwy’n croesawu'r datganiad, ac rwy’n meddwl ei fod yn iawn, rwy’n meddwl, i gysylltu hyn â’r mynegiant o ddieithrio a risialodd i gynifer yn ein cymunedau yn y bleidlais 'gadael’. Tybed a yw hyn yn gyfle i ailfeddwl yn sylfaenol? Y patrwm a welsom, wrth gwrs, oedd llawer o bleidleisiau ‘aros’ mewn ardaloedd metropolitan, ac yn yr hen gymunedau glofaol ar draws Cymru a Lloegr, cafwyd pleidlais yn erbyn—cymunedau sy’n teimlo nad ydynt, efallai, wedi cael eu cysylltu â’r ffyniant trefol. Nid diferu i lawr, efallai, yw’r model sydd wedi bod ond diferu i fyny—crynodi ffyniant yn y dinasoedd, a rywsut byddai angen inni geisio ei gysylltu â'r Cymoedd. A oes angen model newydd arnom yn awr o ddatblygu economaidd? Ac, yn ogystal â'r tasglu, a allem mewn gwirionedd greu strwythur mwy hirdymor, gan edrych ar gorfforaeth datblygu ar gyfer y Cymoedd? Wyddoch chi, mae strategaethau’n wych, ond heb strwythurau, ni allwch gael darpariaeth hirdymor.