Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rwy'n ddiolchgar i David Melding am y pwyntiau y mae’n eu gwneud. Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth am anweithgarwch economaidd. Rwy'n gobeithio mai dyma rai o'r materion y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi’i chynllunio, neu am gael ei chynllunio, i roi sylw iddynt oherwydd mae gennym faterion o anweithgarwch yng nghymunedau'r cymoedd. Ond fel y dywedwch, nid ydynt o ganlyniad i ddiweithdra yn unig, ond rhesymau eraill, hefyd, ac mae angen inni edrych ar y rhesymau hynny. Hefyd, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar achlysuroli, os mynnwch chi, yr economi, lle nad oes swyddi parhaol llawn amser o safon uchel ar gael i bobl, ac mae’n rhaid iddynt weithio ar gontractau dim oriau, gweithio ar gontractau â llai o oriau, gweithio gwaith rhan-amser a methu mewn gwirionedd â chynnal y teulu yn y ffordd y byddent yn dymuno ei wneud. Felly, mae nifer o heriau gwahanol yno o ran yr agenda ehangach, ac rwy’n sicr yn cytuno â David Melding bod angen inni allu gwneud hynny.
Roeddwn yn hapus iawn â gwaith TUC Cymru yn nhermau Gwell Swyddi, Agosach at Adref o ran edrych ar greu gwaith o fewn cymunedau'r Cymoedd, a sut y gall caffael cyhoeddus helpu gyda hynny. Rwy'n meddwl bod hynny'n bwynt sydd wedi'i wneud gan Blaid Cymru yn y gorffennol yn ogystal. Mae'n sicr yn fater y credaf y dylai'r Llywodraeth roi cryn bwyslais iddo.
Yn olaf, dim ond i brofi amynedd y Llywydd, mae’r mater ynghylch gwrando ar bobl yn gwbl hanfodol. Dyna pam yr oeddwn yn awyddus i wneud y datganiad hwn heddiw, cyn y toriad, er mwyn imi allu treulio rhywfaint o amser yn ystod yr haf yn gwrando ar bobl, oherwydd yn aml iawn mae’r hyn yr ydym yn ei glywed ar gerrig drysau yn wahanol i’r hyn yr ydym yn ei glywed ac yn ei ddarllen gan newyddiadurwyr a gan wleidyddion sy'n meddwl eu bod yn gwybod orau. Rwy'n meddwl ei bod yn ddyletswydd arnom ni i gyd i wneud mwy na dim ond gwrando, ond mynd ati i geisio gwrando a chlywed beth sy'n cael ei ddweud wrthym, ac nid dim ond gwneud hynny fel ymarfer ticio blwch.