Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n meddwl bod ffordd goedwig Cwmcarn yn adnodd gwych inni i gyd, ac nid dim ond i’r rhai ohonom sy'n byw yn y Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lle ac wedi clywed y pwyntiau yr ydych wedi eu gwneud. Ac, yn sicr, bydd y gwaith yr wyf yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef yn sicrhau bod taith olygfaol Cwmcarn ar gael i bobl yn y dyfodol. Mae'n enghraifft dda iawn o sut mae amgylchedd a daearyddiaeth a thirwedd y Cymoedd yn rhywbeth sy’n gallu darparu, nid dim ond mwynhad a phleser i'r rhai ohonom sy'n byw yno, ond gall hefyd sicrhau ein bod yn cael effaith economaidd, ac un y mae angen inni ei harneisio a’i defnyddio ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro.