Part of the debate – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Cyflwynwyd Araith y Frenhines ar 18 Mai ac mae’n ymddangos yn amser pell iawn yn ôl pan feddyliwch am yr holl bethau sydd wedi digwydd ers hynny. Cafwyd ymgyrch chwerw, gynhennus y refferendwm Ewropeaidd, llofruddiaeth drasig ein cydweithiwr yn San Steffan, yr Aelod Seneddol Jo Cox, buddugoliaeth agos i’r ymgyrch dros adael yr UE—ac rwy’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau wedi ymgyrchu gyda’n gilydd dros yr ochr ‘aros’ ar Stryd y Frenhines—ac wrth gwrs, ymddiswyddiad y Prif Weinidog, problemau yn fy mhlaid fy hun, a bellach ymddiswyddiad Nigel Farage a’r posibilrwydd o refferendwm annibyniaeth arall i’r Alban. Felly, mae’r ffaith fod yr holl bethau hynny wedi digwydd mewn cyfnod mor fyr o amser wedi goddiweddyd ein bywyd gwleidyddol, ac mae’n gwneud i bethau deimlo’n ansicr a chyfnewidiol iawn. Felly, mae’n eithaf anodd edrych yn ôl ar Araith y Frenhines a gweld ‘Sut y gwnaeth araith y Frenhines eleni effeithio ar gyfleoedd bywyd pobl yma yng Nghymru?’
Nawr, roedd brawddeg gyntaf un Araith y Frenhines yn crybwyll cryfhau’r economi er mwyn darparu diogelwch i bobl sy’n gweithio a chynyddu cyfleoedd bywyd i’r rhai mwyaf difreintiedig.
Honnodd y Prif Weinidog fod hon yn araith y Frenhines un genedl i Lywodraeth un genedl. Nawr, buaswn yn herio hynny’n bendant. Rwy’n credu bod y mesurau caledi a gyflwynwyd ers 2010 gan y glymblaid a’r Llywodraeth Geidwadol bresennol wedi gwneud y bwlch rhwng y rhai ffodus a’r rhai anffodus hyd yn oed yn fwy. Credaf fod yn rhaid i ni ystyried Araith y Frenhines yn y cyd-destun hwnnw.
Nid oes ond raid i chi edrych ar y ffordd y mae’r toriadau wedi effeithio’n anghymesur ar fenywod a phlant, pobl sy’n agored i niwed a phobl anabl. Yn 2014-15 yn y DU, roedd 200,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi, gan godi’r nifer i 3.9 miliwn yn ôl y ffigurau diweddaraf gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ym mis Mehefin eleni. Roedd yn dweud,
Mae’r ffigurau arswydus hyn yn atgyfnerthu rhagamcanion gan arbenigwyr fel y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Resolution Foundation sy’n dweud bod disgwyl i dlodi plant yn y DU gynyddu 50 y cant neu fwy erbyn 2020.
Beth oedd yn mynd i’r afael â’r materion hynny yn Araith y Frenhines? Beth oedd yn pontio’r bwlch hwnnw yn Araith y Frenhines?
Yng Nghymru, yn ôl ffigurau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar ôl costau tai mae tua 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Dyna 29 y cant o’r holl blant sy’n byw yng Nghymru. Yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth yn erbyn tlodi sydd wedi cael canmoliaeth uchel, ond nid yw’r prif ysgogiadau yn ein dwylo ni. Mae’r ffaith fod tlodi plant, yn 2016, yn tyfu ledled y DU yn warth ac yn gywilydd llwyr, ac nid oedd Araith y Frenhines yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r mater hwnnw.
Bydd Araith y Frenhines yn cynyddu cyfleoedd bywyd i’r difreintiedig. Rwy’n siŵr fod swyddfeydd etholaethol pob un ohonoch yn llawn o bobl sy’n wynebu toriadau i’w budd-daliadau, yn enwedig pobl ag anableddau ers i’r lwfans byw i’r anabl ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd hirdymor gael ei ddiddymu a’i ddisodli gan daliadau annibyniaeth bersonol. Mae gennym lu o achosion agored sy’n ymwneud ag asesiadau taliadau annibyniaeth bersonol ar ein llyfrau ar hyn o bryd. Dyma enghraifft i chi: roedd un o fy etholwyr, dyn ifanc a ddioddefodd anafiadau mewn damwain car rai blynyddoedd yn ôl, mewn poen difrifol, ac er iddo gael llawdriniaeth, ni allai gerdded yn bell o gwbl, ac fe gollodd ei hawliau, collodd ei gerbyd symudedd a chollodd ei obaith o gael byw bywyd normal mewn gwirionedd. A heb y cerbyd hwn, roedd yn hollol gaeth i’r tŷ. Roedd eisoes yn dioddef o iselder mawr ynglŷn â’i gyflwr a’i ragolygon cyn colli ei gymhwysedd i gymorth symudedd, ond roedd colli’r cerbyd yn ychwanegu’n fawr at ei iselder. Felly treuliodd bum mis yn ymladd y penderfyniad ac yn y pen draw, llwyddodd fy swyddfa i’w helpu i gael y penderfyniad wedi’i wrthdroi. Ond i feddwl bod dyn ifanc wedi gorfod treulio’r holl amser, a gwneud yr holl ymdrech, gan waethygu ei iselder, a hynny yn 2016, yn y wlad hon heddiw.
Felly, dyna realiti’r mesurau caledi a gyflwynwyd gan San Steffan. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru, ar bob un ohonom yma yn y Cynulliad, i wneud popeth yn ein gallu i dynnu sylw at beth yn union sy’n digwydd. Mae Araith y Frenhines eleni yn cynnwys rhai pethau y gallwn eu canmol—rwy’n cefnogi’r doll ar ddiodydd meddal ac rwy’n credu bod rhai pethau da ynglŷn â mabwysiadu sydd angen eu cyflwyno yng Nghymru—ond nid ydynt yn mynd i’r afael â’r problemau enfawr rydym yn eu gweld yn y gymdeithas heddiw. Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy’n credu, wedi ailbwysleisio’r problemau hynny.
Felly, i gloi, Lywydd, rwy’n credu bod Araith y Frenhines yn cynnig golwg gul iawn ar yr hyn sy’n digwydd yn y gymdeithas yma yng Nghymru heddiw—cyfle arall a gollwyd.