Part of the debate – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Hoffwn i estyn croeso i’r Ysgrifennydd Gwladol, yn ogystal â dweud, er bod croeso iddo fe bob tro yn y Cynulliad, fod y ddadl yma heddiw yn edrych yn eithriadol o ddibwrpas, mae angen dweud, nid yn unig gan fod pwrpas y ddadl yn cael ei ddiddymu ym Mil Cymru, ond oherwydd, fel sydd wedi cael ei grybwyll gan sawl siaradwr erbyn hyn, fod y tirlun gwleidyddol wedi newid mor drawiadol ers Araith y Frenhines fel nad oes modd, a dweud y gwir, i gymryd y ddadl yma o ddifri ynglŷn â phwrpas y Llywodraeth yn San Steffan, fel y mae wedi’i osod allan yn Araith y Frenhines, o ran strategaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rŷm ni i gyd yn derbyn bod yna newid Prif Weinidog a bod yna newid gwleidyddol, ac felly bod llawer o bethau, hyd yn oed y pethau pitw, a oedd yn Araith y Frenhines heb fawr o gyfle i gael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, gan fod y Llywodraeth gyfan yn mynd i ganolbwyntio ar Brexit a’r anghenion i ddarparu ar gyfer hynny. Dyna beth oedd pwrpas gwelliannau Plaid Cymru heddiw. Byddwn i’n licio jest amlinellu ychydig ar y gwelliant sy’n trafod yn arbennig cyfraith Ewrop a pharhad cyfraith Ewrop.
Wrth ymateb i Araith y Frenhines dros ddau fis yn ôl, roedd ein Haelodau Seneddol ni yn San Steffan wedi cynnig y dylai Araith y Frenhines fod wedi cynnwys Bil pwrpasol ar gyfer Brexit. Felly, roeddem ni’n broffwydol iawn fel Aelodau Seneddol ein bod am weld Bil a oedd yn gosod allan, pe bai Brexit yn digwydd, beth fyddai’n digwydd i gronfeydd strwythurol a beth fyddai’n digwydd i’r arian sydd yn dod o ran taliadau fferm sengl a’r polisi amaeth cyffredinol—felly, roeddem ni’n barod ar gyfer hynny—a hefyd yn dweud y dylai fod yna ddarpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer strategaeth y tu ôl i gronfeydd strwythurol a beth oedd pwrpas, felly, datblygu polisi amaeth. Rŷm ni i gyd yn gwybod nad yw polisi amaeth yn benodol yn bolisi cyffredin trwy wledydd Prydain o gwbl—mae’r polisi’n wahanol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Felly, roeddem ni am weld Bil o’r fath yn yr Araith y Frenhines wreiddiol. Ni chafwyd hynny, ond cafwyd, yn ystod ymgyrch y refferendwm, nifer o addewidion gan y bobl a oedd yn ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd y byddai’r arian yn parhau, y byddai’r gyllideb yn parhau ac y byddai modd dal i ariannu cronfeydd strwythurol a’r arian polisi amaethyddol. Felly, rŷm ni yn gobeithio nawr y bydd Llywodraeth San Steffan yn ymateb i’r her yna drwy osod allan sut bydd hyn yn digwydd.
Yr ail elfen yn hyn, wrth gwrs, yw y ffaith ein bod ni, dros 40 mlynedd, wedi plethu ein cyfraith ni â chyfraith Ewrop. Mae nifer o bobl wedi dehongli hynny fel Ewrop yn dweud wrthym ni beth i’w wneud. Rwy’n ei ddehongli fel deddfu ar y cyd ag Ewrop. Nid oes modd amlinellu popeth mewn araith y prynhawn yma, ond ymysg y pethau sydd yn rhan o gyfraith Prydain a chyfraith Cymru erbyn hyn yw’r nifer o ddarpariaethau ar gyfer oriau gwaith gweithwyr. Fe soniodd yr Ysgrifennydd Gwladol ein bod yn cael derbyn y dreth dirlenwi, a’i bod yn cael ei datganoli i Gymru, ond, wrth gwrs, mae’r dreth dirlenwi yn deillio o gyfarwyddyd tirlenwi gan yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw. Mae nifer o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy sy’n digwydd yng Nghymru hefyd o dan gyfarwyddyd gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan y Gymraeg statws cyd-swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd nad oes ganddi yn San Steffan. Mae hynny’n rhywbeth i’w gofio. Mae gennym gynllun difa diciâu mewn gwartheg sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae yna wir berig, nid yn unig y bydd arian yn cael ei golli o’r cynllun hwnnw ond hefyd y bydd Ewrop yn dechrau edrych o’r newydd ar yr ardaloedd o Gymru sy’n dioddef o TB mewn gwartheg ac efallai’n dechrau amau a oes statws glân gan Gymru. Oherwydd, yn y cyd-destun Ewropeaidd, rydym yn wlad sy’n dioddef yn drwm o TB mewn gwartheg ar adegau.
Felly, mae’r pethau yma ymysg y ffordd rŷm ni wedi ffurfio a deddfu dros Gymru dros y 40 mlynedd diwethaf, naill ai o dan San Steffan neu o dan y Cynulliad. Felly, mae’n rhwym, rwy’n meddwl, ar y Llywodraeth yn San Steffan i egluro sut y byddwn ni’n awr yn mynd ati i ddarparu yn y meysydd yma. Hefyd, y peth syml, wrth gwrs, yw dweud a datgan yn glir iawn bod cyfraith Ewrop yn parhau nes ei bod wedi cael ei diddymu’n benodol gan y Cynulliad hwn neu, yn achos deddfau sy’n briodol, gan San Steffan.
I orffen, ac ynghlwm â’r cwestiwn yma, rwyf eisiau dychwelyd hefyd i’r ffaith bod angen neges glir a chryf, a chyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn lled at hynny, fod dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd i’w croesawu yng Nghymru, yn cyfrannu’n fawr at ein gwasanaeth iechyd a’n heconomi ni, a bod modd iddyn nhw aros, heb unrhyw amheuaeth o gwbl, yn achos teuluoedd ac unigolion, fod gofyniad iddyn nhw ddychwelyd i wledydd eraill.