Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Yn ogystal â mynd i’r afael â’r hyn a gafodd ei ddweud yn Araith y Frenhines, rwy’n credu ei bod yn bwysig ystyried, fel y mae eraill wedi’i wneud, yr hyn na chafodd ei ddweud, a hefyd i nodi bod 28 o’r 30 Bil a gyhoeddwyd yn hen gyhoeddiadau. Roedd y sylw i Gymru, sydd bellach yn orfodol, yn fyrrach nag arfer hyd yn oed, gyda brawddeg yn unig ar gyflwyno Bil Cymru, rhywbeth rydym eisoes wedi craffu arno cyn y broses ddeddfu. Mae’n drist nodi hefyd na chrybwyllwyd Cymru unwaith gan y Prif Weinidog nac arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan yn eu cyfraniadau i’r ddadl ar Araith y Frenhines yn Nhŷ’r Cyffredin. Fel y clywsom, mae yna nifer o Filiau Cymru-a-Lloegr, ychydig o filiau Prydain, yn ogystal â Biliau ar gyfer y DU gyfan. Rwy’n credu mai un peth sydd angen ei ystyried yn dilyn Araith y Frenhines eleni yw sut y gallwn weithredu proses newydd ar gyfer deddfau o’r fath sydd ar gyfer Cymru a Lloegr, neu ar gyfer Prydain yn unig neu’r DU gyfan sy’n gallu dod â Llywodraethau at ei gilydd, gan gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig, fel y gellir cydweithio ar y Biliau hynny, hyd yn oed os ydynt yn parhau i fod yng nghategori materion a gedwir yn ôl ym mha bynnag Fil Cymru a ddaw i rym yn y pen draw.
Rwy’n gobeithio y rhoddir ystyriaeth i rai o’r syniadau yn Araith y Frenhines amgen Plaid Cymru. Mae Simon Thomas eisoes wedi cyfeirio at yr angen am Fil cronfeydd wrth gefn yr EU, ac rwy’n gobeithio y rhoddir ystyriaeth ddifrifol iddo, a bydd nifer o gymunedau yn y wlad hon yn disgwyl Bil o’r fath. Mae’n amlwg, rwy’n credu, ein bod angen Bil i sefydlu comisiwn annibynnol i ddatrys anghydfodau cyllido rhwng Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig. Datgelwyd annhegwch fformiwla Barnett gan gomisiwn annibynnol Holtham flynyddoedd lawer yn ôl, yn ogystal â nifer o gomisiynau eraill cyn ac ar ôl hynny, a byddai’r methiant i ddyrannu arian canlyniadol llawn i Gymru o ganlyniad i HS2, yn ogystal ag enghreifftiau eraill, yn cael eu datrys, fel y dylent gael eu datrys, gan gomisiwn annibynnol yn y dyfodol. Mae sefydlu comisiwn annibynnol hefyd yn hanfodol yng nghyd-destun y ddadl sy’n dod i’r amlwg ynglŷn â’r fframwaith cyllidol a fydd yn cynnwys y trefniadau rhannu treth sydd ar y gorwel rhwng y DU a Llywodraeth Cymru.
Fel y nodwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, dylai comisiwn dyfarnu annibynnol fod yn elfen hanfodol felly yn y fframwaith cyllidol sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y DU. Cynigiodd adroddiad Canolfan Bingham mai’r corff hwn, neu gorff annibynnol arall, fydd yn gyfrifol am ddyfarnu mewn achosion o anghydfod rhwng Llywodraethau na ellir eu datrys drwy brosesau gweinidogol ar y cyd—ac os oes un peth rydym wedi’i ddysgu o’r ddadl hon heddiw, mae’n eithaf posibl, buaswn yn awgrymu, y ceir anghydfod neu ddau rhwng dwy Lywodraeth yn y dyfodol.
Yn Araith y Frenhines, byddem wedi croesawu Bil darlledu a fyddai o’r diwedd yn datganoli’r cyfrifoldeb, neu ran o’r cyfrifoldeb, dros ddarlledu yng Nghymru. Byddai hynny’n sefydlu ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer Cymru fel rhan o gorff BBC mwy ffederal ar lefel y DU. Ac wrth gwrs, fel rhan o’r Bil darlledu hwn, byddem wedi croesawu gweld y cyfrifoldeb dros S4C yn cael ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â chyllid ar gyfer y sianel sydd ar hyn o bryd gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Whitehall.
Mae Aelodau eraill wedi sôn am y cyfrifoldeb dros blismona. Byddai datganoli plismona fel rhan o Fil Cymru, neu fel rhan o ddeddfwriaeth blismona ar wahân, wedi cael croeso mawr gennym. Mae canlyniadau etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu yn ddiweddar wedi arwain at sefyllfa lle mae pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru yn datgan eu bod yn cefnogi datganoli plismona, yn ogystal â’r ffaith fod y mwyafrif o’r pleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi cefnogi datganoli plismona.
Mae Plaid Cymru yn credu bod ffordd well o gyflwyno diwygiadau i garchardai, ac fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, mae hynny’n rhywbeth a fydd yn fater Cymru-a-Lloegr, yn Fil Cymru-a-Lloegr, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu rhoi ymrwymiad pendant, os na fydd carchardai’n cael eu datganoli yn fuan, y bydd y ddeddfwrfa hon a Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys ar y cam cyn y broses ddeddfu wrth i Filiau pellach symud ymlaen ar blismona.
Byddai Plaid Cymru wedi croesawu Bil, fel llawer o bleidiau eraill rwy’n siŵr, i drosglwyddo cyfrifoldeb, o’r diwedd, dros bontydd Hafren i Lywodraeth Cymru pan fyddant yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Fel Aelod sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, gallaf ddweud y byddai hynny wedi cael croeso cynnes yn ein cymunedau. Byddai hyn wedi galluogi Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu ar y lefel briodol o dâl, os o gwbl, sydd ar gyfradd uchel ar hyn o bryd ac sy’n niweidiol i economi Cymru.
Ceir ambell elfen a grybwyllwyd gan eraill y mae Plaid Cymru yn eu croesawu yn Araith y Frenhines, gan gynnwys y doll ar ddiodydd meddal—rhywbeth a gynigwyd gan Blaid Cymru beth amser yn ôl ac a wawdiwyd gan bobl sydd bellach wedi cael tröedigaeth Ddamascaidd. Rwy’n gobeithio, wrth gloi, y bydd San Steffan dros y misoedd nesaf yn gallu cyflawni ei addewid o agenda o barch rhwng y ddwy Lywodraeth sy’n rheoli’r wlad. Rwy’n amau nad ydym eto wedi gweld hwnnw’n datblygu’n llawn. Diolch.