Part of the debate – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Roedd Harold Wilson yn arfer dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Wel, mae’n ymddangos fel oes wleidyddol gyfan yn ôl, fel y crybwyllwyd eisoes, er pan gyflwynwyd Araith y Frenhines i’r Senedd ar 18 Mai 2016. Ar wahân i’r llu o faterion economaidd, masnachol a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu yn awr, mae’n anochel i Gymru fod y sylw’n canolbwyntio yn awr ar Fil Cymru. Nid oes amheuaeth fod y Bil newydd i’w groesawu o’i gymharu â’r Bil drafft blaenorol a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. Fodd bynnag, rydym unwaith eto yn wynebu materion sy’n parhau heb eu datrys. Yn fwyaf nodedig, nid yw’r Bil yn cynnwys datganoli plismona, ac mae cyflogau athrawon hefyd yn parhau i fod yn gymal cadw cadarn yn y Bil, o ganlyniad i drafodaethau parhaus ar y trosglwyddiad ariannol sydd ei angen i gefnogi datganoli. Mae angen cywiro hyn. Gwn fod y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ac annog dadleuon a chraffu seneddol ar y materion hyn. Ni ddylai fod angen dweud mai’r cyfan y mae Cymru yn ei fynnu gan Lywodraeth y DU yw tegwch a pharch—rhaid cael tegwch a pharch ar y naill ochr a’r llall.
Yn yr un modd, nid yw’n gwneud synnwyr i mam a dad ar Stryd Fawr Coed Duon nac i gyfreithwyr cyfansoddiadol fod datganoli pwerau ledled y Deyrnas Unedig i’w weld mor dameidiog ac ad hoc. Mae Llywodraeth y DU, eto heddiw, wedi argymell meiri metro, fel y crybwyllwyd, a fydd yn arwain at roi pwerau dros blismona yn nwylo un person. Eto i gyd, parheir i wadu datganoli pwerau o’r fath i’r Cynulliad Cenedlaethol cyfan, ac nid oes unrhyw resymeg i hyn.
Cefais fy nharo gan y sylwadau yn y Siambr ddoe gan fy ffrind Huw Irranca-Davies, yr Aelod dros Ogwr, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Er bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cael gwahoddiad i ddod gerbron y pwyllgor, meddai, hyd yn hyn nid oedd wedi derbyn y gwahoddiad i fynychu. Er ei bod yn dda gweld Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ein cyfarch ni heddiw—hawl y bydd y Bil Cymru yn ei diddymu gyda llaw—mae’n bwysig fod cyfathrebu a chydweithredu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru cystal ag y bo modd iddo fod, ac yn seiliedig ar barch y naill tuag at y llall, gan fod Llywodraeth Lafur Cymru bob amser wedi ceisio bwrw ymlaen â’r broses ddatganoli drwy gonsensws trawsbleidiol, lle bo hynny’n bosibl.
Mae’n anodd amgyffred a deall pam fod Bil Cymru wedi’i frysio, yn enwedig pan ystyriwch nad oedd trafodaethau rhwng swyddogion y DU a Llywodraeth Cymru wedi dod i ben. Hefyd, mae’r amserlen bresennol ar gyfer taith y Bil yn gyfyngedig a brysiog ac nid yw’n rhoi fawr iawn o amser ar gyfer craffu gwerthfawr. Mae deddfwriaeth frysiog, fel rwy’n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn gwybod, yn arwain at gyfraith wael iawn.
Heddiw rwyf i, gyda fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Lafur Cymru, yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru fel mater o egwyddor. Dylai’r pwerau a gynigir i’r Alban a Gogledd Iwerddon gael eu cynnig i Gymru hefyd. Mae’r Prif Weinidog wedi dadlau’r safbwynt hwnnw’n gyson yn y Siambr hon, ac mae Carwyn Jones wedi arwain ar hyn drwy ddadlau bod angen i ni symud tuag at ddull mwy cydlynol a chyson o weithredu gan Lywodraeth y DU, dull sy’n trin pob rhan o’r DU gyda pharch cyfartal. Nid yw bellach yn ymarferol i Gymru’r unfed ganrif ar hugain gael ei llywodraethu ar sail cyfansoddiad anysgrifenedig sydd wedi datblygu’n anghyfartal ar hyd a lled y gwahanol aelodau o’r Deyrnas Unedig, ac i gyfeiriad cynyddol wahanol i’r setliad datganoli.
Yn yr un modd, nid yw fy etholwyr wedi fy anfon yma i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod materion cyfansoddiadol datganoli yn ddiddiwedd. Maent wedi fy anfon yma—fel y crybwyllwyd eisoes—i frwydro dros eu teuluoedd gweithgar, i sicrhau gwell dyfodol i’n cymunedau, i ymladd yn erbyn tlodi a chreu swyddi, a chael y fargen orau sy’n bosibl iddynt. Nid yw Araith y Frenhines yn cyflawni hynny. Gadewch i ni fod yn onest, roedd Araith ddiweddaraf y Frenhines yn gyfle arall a gollwyd i fynd i’r afael â llawer o’r materion mawr sy’n wynebu Cymru a’r DU yn ehangach. Araith y Frenhines ddisylwedd oedd hi a ddarparwyd yng nghysgod y refferendwm Ewropeaidd y rhagwelai’r Prif Weinidog yn hyderus y byddai’n ei ennill. Mae golygydd PoliticsHome.com, Kevin Schofield, wedi crynhoi gwerth rhagfynegiadau’r Prif Weinidog yn daclus:
Felly yn y bôn, byth ers i David Cameron ein sicrhau nad yw Prydeinwyr yn rhoi’r gorau iddi, mae pawb wedi rhoi’r gorau iddi. Ac eithrio Jeremy Corbyn.
Heddiw ac yfory a thrennydd, a’r wythnos ar ôl hynny, a’r mis ar ôl hynny wedyn, gwn na fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r gorau i’w phenderfyniad diwyro i roi i bobl Cymru y parch a’r broses ddemocrataidd y maent yn ei haeddu, yn gydradd â’n cyd-ddinasyddion ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Diolch, Lywydd.