Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Mae galw heb ei ddiwallu yn awgrymu bod angen mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg cynradd mewn ysgolion ym Mhenlle’r-gaer neu yng Ngorseinon yn fy rhanbarth oherwydd pwysau ar Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin. Caiff plant ifanc eu cludo o ardaloedd Cwmbwrla a Gendros yn Abertawe i gael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg mewn rhannau eraill o’r ddinas am fod y cyngor wedi clustnodi safle perffaith i ysgol ar gyfer tai, a cheir problemau gorlif parhaus gyda pheth o’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg cynradd yn nwyrain fy rhanbarth o ganlyniad i ymgynghoriad carbwl gan y cyngor a cholli arian ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ysgol newydd o ganlyniad i hynny. A yw cynghorau yn trin cynlluniau Cymraeg mewn addysg o ddifrif ac os nad ydynt, a wnewch chi gryfhau’r ddeddfwriaeth berthnasol i sicrhau eu bod yn gwneud hynny?