Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi am hynny. Mae’r cyfrifiad ysgolion diweddaraf yn dangos mai’r maint dosbarth babanod cyfartalog yng Nghymru yw 25.4 o ddisgyblion. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gostyngir maint dosbarthiadau babanod yn Islwyn i 25, gan fod lleihau maint dosbarthiadau babanod yn fater pwysig i rieni ac y gall effeithio’n gadarnhaol ar lwyth gwaith athrawon? A pha bryd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y gellir cyrraedd y targed ar gyfer Islwyn?