3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2016.
2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa ganran o ddisgyblion sydd mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion yn Islwyn? OAQ(5)0009(EDU)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd o’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, a elwir hefyd yn CYBLD, yn dangos mai nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau o dros 30 gydag eithriadau a ganiateir yn gyfreithiol oedd 256 o ddisgyblion allan o gyfanswm o 2,600, gan wneud hynny’n 9.8 y cant o blant.
Diolch i chi am hynny. Mae’r cyfrifiad ysgolion diweddaraf yn dangos mai’r maint dosbarth babanod cyfartalog yng Nghymru yw 25.4 o ddisgyblion. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gostyngir maint dosbarthiadau babanod yn Islwyn i 25, gan fod lleihau maint dosbarthiadau babanod yn fater pwysig i rieni ac y gall effeithio’n gadarnhaol ar lwyth gwaith athrawon? A pha bryd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y gellir cyrraedd y targed ar gyfer Islwyn?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am gydnabod pwysigrwydd y mater hwn? Fel rhywun a dreuliodd amser yn dysgu plant, rwy’n siŵr fod ganddi brofiad uniongyrchol o wybod sut y gall niferoedd disgyblion effeithio’n wirioneddol ar allu plant i ddysgu. Mae lleihau llwyth gwaith a galluogi athrawon i dreulio’r amser hanfodol hwnnw’n cynorthwyo disgyblion yn flaenoriaeth allweddol i mi a Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gwmpasu opsiynau i leihau maint dosbarthiadau ar sail Cymru gyfan, gan ddechrau gyda’r dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf. O ran yr amser targed ar gyfer Islwyn, nid wyf mewn sefyllfa heddiw i allu dweud pa bryd y cyflawnir hynny, ond mae’n un o fy mlaenoriaethau, fel y dywedais, ar sail Cymru gyfan.
Rwyf hefyd yn awyddus i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei swydd newydd. Fy nghwestiwn cyntaf iddi yw—. Yn ôl datganiad i’r wasg gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, cafodd dros 7,500 o ddisgyblion yng Nghymru eu haddysgu mewn dosbarthiadau o fwy na 30 o ddisgyblion y llynedd. Ynddo hefyd, roeddech chi’n dyfynnu—eich dyfyniad chi— ein prif flaenoriaeth addysg yw torri maint dosbarthiadau.
Fodd bynnag, mae cynghorydd i Lywodraeth Cymru, yr Athro David Reynolds, wedi dweud,
Os edrychwch ar y dystiolaeth academaidd, nid ydych yn ennill llawer o leihau maint dosbarthiadau.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw torri maint dosbarthiadau yn Islwyn ac mewn rhannau eraill o Gymru yn dal i fod yn brif flaenoriaeth iddi mewn addysg yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am ei eiriau caredig? A gaf fi ddweud yn glir nad yw David Reynolds yn cynghori fy adran? A gaf fi hefyd ddweud bod yna dystiolaeth sy’n awgrymu bod torri maint dosbarthiadau yn arbennig o bwysig i’n disgyblion iau, mae’n arbennig o bwysig i’n disgyblion mwyaf difreintiedig—rhai o’r cymunedau y mae’r Aelod yn dweud ei fod yn eu cynrychioli—ac mae’n arbennig o bwysig i’r plant ifanc hynny nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt? Dyna ble y gwyddom fod torri maint dosbarthiadau yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Os yw’r Aelod yn treulio amser yn siarad gyda rhieni ac athrawon, bydd yn gwybod ei fod yn flaenoriaeth iddynt. Dyna pam mai dyna oedd fy mhrif flaenoriaeth ym maniffesto fy mhlaid a dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn cyflawni arno.
Rwyf wedi bod yn siarad â phenaethiaid yn ddiweddar sy’n pryderu ynglŷn â’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn. Maent hefyd yn pryderu bod ysgolion sydd â gormod o geisiadau eisoes ar eu cyfer—drwy leihau’r nifer safonol, gallai arwain at allu derbyn llai o ddisgyblion nag ar hyn o bryd hyd yn oed. Maent hefyd yn pryderu ynglŷn â gallu adeiladau’r ysgol i ymdopi â’r newidiadau a fydd yn deillio o’r polisi hwn, felly tybed pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei gynnig o ystyried y pryderon hynny.
Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Mae’n wir dweud y bydd yn rhaid cael amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cyflawni hyn. Dyna pam y mae fy swyddogion yn cwmpasu nifer o ddewisiadau lle y gallwn wireddu hyn ar gyfer y disgyblion. Gallai hynny gynnwys cyflogi athrawon ychwanegol, gallai olygu rhyddhau grantiau ar gyfer gwaith cyfalaf, neu gallai olygu cyflogi, er enghraifft, cynorthwywyr addysgu lefel uwch i ni allu mynd i’r afael â chymarebau oedolion i fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth. Mae fy swyddogion yn cwmpasu’r dulliau gorau o gyflawni’r nod o sicrhau bod athrawon yn cael yr amser sydd ei angen arnynt i roi’r sylw angenrheidiol i ddisgyblion unigol allu ffynnu yn eu blynyddoedd cynharaf o addysg.