Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Mae’n wir dweud y bydd yn rhaid cael amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cyflawni hyn. Dyna pam y mae fy swyddogion yn cwmpasu nifer o ddewisiadau lle y gallwn wireddu hyn ar gyfer y disgyblion. Gallai hynny gynnwys cyflogi athrawon ychwanegol, gallai olygu rhyddhau grantiau ar gyfer gwaith cyfalaf, neu gallai olygu cyflogi, er enghraifft, cynorthwywyr addysgu lefel uwch i ni allu mynd i’r afael â chymarebau oedolion i fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth. Mae fy swyddogion yn cwmpasu’r dulliau gorau o gyflawni’r nod o sicrhau bod athrawon yn cael yr amser sydd ei angen arnynt i roi’r sylw angenrheidiol i ddisgyblion unigol allu ffynnu yn eu blynyddoedd cynharaf o addysg.