<p>Mynediad i Addysg</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:12, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwybod bod mater llwybrau diogel i’r ysgol o ddiddordeb arbennig i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan eich bod wedi gofyn cwestiynau ar ran eich etholwyr cyn hyn. Mae’n broblem i fy etholwyr i, hefyd. Hyd yn oed yn awr, mae’r llwybr cerdded i ysgol newydd Bae Baglan yn enghraifft o hyn i ddisgyblion blaenorol ysgol Cwrt Sart, sy’n cau cyn bo hir. Er nad yw’r ysgol newydd ar agor eto, aseswyd y llwybr cerdded i’r ysgol cyn cyflwyno canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ychydig dros ddwy flynedd yn ôl. Nid wyf yn credu y byddai’r llwybr newydd yn bodloni’r meini prawf newydd. A wnewch chi weithio gyda’ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i fynnu bod awdurdodau lleol yn ailasesu llwybrau i’r ysgol a gafodd eu cymeradwyo o dan yr hen feini prawf, ac i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau 2014?