3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2016.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i addysg? OAQ(5)0004(EDU)
Yn sicr. Yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i addysg gynhwysfawr ar gyfer pawb.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwybod bod mater llwybrau diogel i’r ysgol o ddiddordeb arbennig i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan eich bod wedi gofyn cwestiynau ar ran eich etholwyr cyn hyn. Mae’n broblem i fy etholwyr i, hefyd. Hyd yn oed yn awr, mae’r llwybr cerdded i ysgol newydd Bae Baglan yn enghraifft o hyn i ddisgyblion blaenorol ysgol Cwrt Sart, sy’n cau cyn bo hir. Er nad yw’r ysgol newydd ar agor eto, aseswyd y llwybr cerdded i’r ysgol cyn cyflwyno canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ychydig dros ddwy flynedd yn ôl. Nid wyf yn credu y byddai’r llwybr newydd yn bodloni’r meini prawf newydd. A wnewch chi weithio gyda’ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i fynnu bod awdurdodau lleol yn ailasesu llwybrau i’r ysgol a gafodd eu cymeradwyo o dan yr hen feini prawf, ac i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau 2014?
Diolch i’r Aelod. Gwn ei bod wedi gweithio’n galed iawn dros nifer o flynyddoedd ar y mater hwn. Yn wir, adolygodd Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad diwethaf y canllawiau i raddau helaeth o ganlyniad i’r gwaith ymgyrchu a wnaeth hi yn y maes hwn. Rwy’n arddel y safbwynt synnwyr cyffredin nad yw trefniadau teithio yn addas os nad ydynt yn ddiogel. Fel y soniais yn gynharach mae’r ddeddfwriaeth sydd ar waith, Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn gosod y gofynion statudol ar gyfer cludo plant o’r cartref i’r ysgol. Os nad yw llwybr yn cael ei ystyried yn ddiogel, yna ni ellir disgwyl i blentyn gerdded i’r ysgol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’r pellter rhwng y cartref a’r ysgol yn llai na’r meini prawf milltiroedd statudol ar gyfer cludiant am ddim. Rwy’n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi tua £150,000 i gyngor sir Castell-nedd Port Talbot er mwyn datblygu llwybrau i’r ysgol newydd, felly mae’n siomedig iawn clywed, er y gwariant hwnnw, fod rhieni’n dal yn bryderus. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion, ar y cyd â rhai Ysgrifennydd y Cabinet dros ddatblygu economaidd sydd â chyfrifoldeb dros y Mesur teithio gan ddysgwyr, i ystyried hyn eto.
Wrth gwrs, pan fydd disgyblion yn cyrraedd yr ysgol, rhaid iddynt wneud eu ffordd o gwmpas yr ysgol. Mae nifer o blant yn cael anhawster symud, mae rhai mewn cadeiriau olwyn, ond mae rhai hefyd yn cael anhawster i wneud eu ffordd o amgylch yr ysgolion. Sawl un o’r ysgolion sy’n methu â chydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cydymffurfio?
Ar fy ngwir, Mike, rwyf wedi ymdrechu’n galed iawn i wneud yn siŵr fy mod wedi paratoi’n dda ar gyfer y cwestiynau hyn, ond nid oes gennyf y manylion hynny wrth law. Os yw’n dderbyniol i’r Aelod, byddaf yn ysgrifennu ato gydag union fanylion yr ysgolion sy’n cydymffurfio neu nad ydynt yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r cynlluniau sydd gennym. Rwy’n siŵr fod llawer o’r buddsoddiad yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cyd-fynd â sicrhau bod ein hysgolion yn hygyrch i’n plant i gyd.
Mae mynediad at addysg gynnar o safon uchel yn ffordd effeithiol o gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant difreintiedig a phlant eraill, a sicrhau datblygiad ieithyddol plant ifanc. Ar hyn o bryd, mae plant sy’n byw mewn tlodi parhaus yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio yn is na’r cyfartaledd ar gyfer eu datblygiad iaith pan yn bump oed o’u cymharu â’u cyfoedion mwy cefnog. Yn ystod yr etholiad, mi gynigiodd Plaid Cymru bolisïau radical a fyddai’n helpu cau’r bwlch cyrhaeddiad, gan gynnwys cynnig lle mewn ysgol i bob plentyn o dair oed ymlaen. Mae ymchwil yn dangos bod cychwyn ysgol yn gynt yn mynd i’r afael â’r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad gwael ac yn help i godi teuluoedd allan o dlodi. A ydych chi’n cytuno bod angen gweithio tuag at sicrhau mynediad cyfartal i addysg gynnar i bob plentyn tair oed? Os felly, er mwyn cyflawni hyn, a fyddech chi’n fodlon cychwyn ar gynllunio ar gyfer derbyn plant yn dair oed mewn ysgolion?
Diolch i’r Aelod am y pwynt, sy’n un arbennig o berthnasol. Rydym yn gwybod, hyd yn oed ar y cam cynharaf, pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol, fod ein plant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig eisoes ar ei hôl hi. Dyna pam, yr wythnos hon, fod Llywodraeth Cymru wedi lansio eu prosiect Parod i Ddysgu er mwyn ceisio rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am y pethau bach y gallant eu gwneud gartref i baratoi plant ar gyfer dechrau yn yr ysgol ac i wneud y cyfnod pontio hwnnw’n llwyddiant. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod hyn yn natblygiad y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer ein disgyblion cyfnod sylfaen, a byddaf yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud yn y meini prawf hynny. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dechrau cynllun i weithredu ymrwymiad maniffesto’r Blaid Lafur i ddarparu 30 awr o addysg a gofal plant. Mae’n bwysig iawn fod y ddarpariaeth honno o safon uchel ac y gall fod ar gael i’r plant tlotaf hynny fel eu bod hwy, hefyd, yn gallu manteisio ar hynny. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi i edrych ar sut y gallwn wneud yn siŵr fod y pecyn addysg a gofal hwnnw’n goresgyn rhai o’r heriau sy’n wynebu ein plant o’n cefndiroedd mwyaf difreintiedig cyn iddynt ddechrau eu taith drwy’r ysgol.