Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Rwy’n sylweddoli, Weinidog, fod prentisiaethau yn rhan o gylch gwaith Gweinidog portffolio arall, ond rwy’n siwr eich bod yn gwybod am gynllun prentisiaeth Sir Benfro, sy’n anelu at gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cael hyfforddiant yn y sector ynni ar draws Sir Benfro, cynllun a gefnogir gan sefydliadau megis Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, sy’n noddi cyflogwyr. Nawr, mae hon, wrth gwrs, yn enghraifft wych o fusnesau lleol a darparwyr addysg yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu prentisiaethau sy’n bwysig i’r economi leol. Felly, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chynorthwyo mwy o fusnesau i ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach, fel Coleg Sir Benfro, fel bod colegau addysg bellach Cymru ar y blaen yn y gwaith o gyflwyno rhaglenni sy’n adlewyrchu marchnadoedd sgiliau lleol mewn gwirionedd?