Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn. Rwy’n meddwl bod y berthynas rhwng cyflogwyr a cholegau a sefydliadau addysg bellach yn gwbl allweddol er mwyn cyflwyno rhaglen brentisiaeth sy’n ateb anghenion y boblogaeth leol a’r economi leol. Un o’r disgwyliadau sydd gennyf yw bod pob sefydliad addysg bellach yn ymatebol i gyflogwyr lleol. Gwyddom fod hynny’n wir am y rhan fwyaf, a gwyddom hefyd, lle mae gennym nifer o gyflogwyr mawr ac arwyddocaol—. Cyfeiriodd yr Aelod at awdurdod porthladd Aberdaugleddau; gallech gyfeirio yn yr un modd at y purfeydd yn yr un math o ardal. Lle y ceir cyflogwyr mawr iawn, gwyddom fod yr ymatebolrwydd yno eisoes. Weithiau os oes gennych economi sy’n cael ei dominyddu gan fentrau bach a chanolig eu maint, rwy’n pryderu nad yw pob un o’r anghenion hynny’n cael eu deall yn llawn ar draws y wlad i gyd, a dyna un maes y byddaf yn canolbwyntio arno yn ystod y blynyddoedd nesaf.