<p>Gwleidyddiaeth a Materion Cyfoes mewn Ysgolion</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:29, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn amserol? Mae dysgwyr ar hyn o bryd yn astudio gwleidyddiaeth a materion cyfoes drwy’r fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol a bagloriaeth Cymru sydd newydd ei ailwampio. Mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio gyda phedwar diben yn ganolog iddo a bydd yn helpu pob unigolyn ifanc i ddatblygu’n ddinasyddion moesol a gwybodus yng Nghymru ac yn wir, yn y byd.