<p>Gwleidyddiaeth a Materion Cyfoes mewn Ysgolion</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:35, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Gwnaf yn wir, ac fel y dywedais, mae’r fagloriaeth Gymreig newydd, a gyflwynwyd gyntaf i’w dysgu ym mis Medi y llynedd, yn cynnwys dinasyddiaeth fyd-eang fel un o’i phedair her graidd. Ceir darpariaeth ar hyn o bryd yn y cwricwlwm cyfredol, ond wrth i ni ddatblygu ein cwricwlwm newydd, drwy ein hysgolion arloesol, bydd yna ffocws cryf, fel y dywedais, ar sicrhau bod ein plant, pan fyddant yn gadael addysg, yn ddinasyddion moesol a gwybodus, ac yn gallu chwarae rhan lawn ym mhob agwedd ar ein cymuned a’n cymdeithas.