Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein holl ddysgwyr gan gynnwys y rhai sydd ag awtistiaeth. Drwy ganolbwyntio ar ddatblygu ein gweithlu, drwy ein cynllun gweithredu strategol a thrwy rhaglen i drawsnewid y cymorth a roddir tuag at anghenion dysgu ychwanegol, byddwn yn sicrhau bod dysgwyr awtistig yn derbyn y ddarpariaeth sydd ei hangen arnyn nhw.