<p>Blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad</p>

Part of 4. 3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:42, 6 Gorffennaf 2016

Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb ac fe’i croesawaf ef i’w swydd newydd, wrth gwrs, gan ddweud fy mod yn edrych ymlaen at bum mlynedd o ofyn cwestiynau iddo fe fel yr oeddwn yn eu gofyn i’w rhagflaenydd.

Ymysg y blaenoriaethau yna, pa mor bwysig y mae’r Llywodraeth a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y ffaith bod y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn rhan o gyfraith Cymru drwy Ddeddfau Cymru? Wrth gwrs, mae yna fwriad, neu sôn am fwriad, gan Lywodraeth San Steffan i ddisodli hwnnw drwy ryw fath o fil hawliau mwy annelwig o lawer. A ydy’n fwriad gan y Llywodraeth i amddiffyn y ffaith bod y confensiwn yn rhan o gyfraith sydd yn sail i’r ffordd yr ydym yn gweithio yma yn y Cynulliad?