Part of 4. 3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Rwy’n credu y bydd yr Aelod yn sylweddoli mai saith diwrnod yn unig sydd yna ers i mi ddechrau yn y swydd, felly ni fydd yn syndod nad wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith eraill ar y mater hwn, ond mae’n amlwg bod gadael yr UE yn newid cyfansoddiadol enfawr i’r DU. Bydd iddo oblygiadau pellgyrhaeddol hefyd o ran y setliad datganoli.