<p>Goblygiadau Cyfreithiol y DU o ran Tynnu Allan o’r UE</p>

Part of 4. 3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:46, 6 Gorffennaf 2016

Diolch i’r Cwnsler am ei ateb, ac a gaf i ddweud wrtho ar y cychwyn fod ei atebion eisoes wedi bod llawer yn fwy cynhwysfawr nag a gefais i yn ystod y pum mlynedd diwethaf—nag a gafodd ef, o bryd i’w gilydd, yn ystod y pum mlynedd diwethaf hefyd?

Rwy’n parchu’r ffaith nad oes llawer o amser wedi pasio ers iddo gael ei benodi, a’r refferendwm, wrth gwrs. Ond, o safbwynt y drafodaeth yr ydym newydd ei chael yn y Siambr hon, mae’n amlwg bod y ffordd y mae’r gyfraith Ewropeaidd wedi’i phlethu i mewn i gyfraith Cymru a chyfraith y Deyrnas Gyfunol yn mynd i fod yn gwestiwn dyrys yn ystod y blynyddoedd nesaf. A gaf i gyfeirio at erthygl sydd yn y ‘Western Mail’ heddiw gan y bargyfreithiwr Emyr Lewis, sydd yn edrych ar sut y bydd cyfraith Cymru yn rhan o’r cwestiynau dyrys iawn i’r proffesiwn cyfreithiol yn ystod y blynyddoedd nesaf?

Felly, beth fydd y camau? Er enghraifft, a ydy’r Cwnsler Cyffredinol â golwg ar gyhoeddi, o leiaf, ryw fath o ‘scoping exercise’ sydd yn sôn am y gwahanol ‘directives’ a phethau sy’n effeithio ar gyfraith fan hyn, fel ein bod ni o leiaf yn gallu deall swmp y gwaith cyn mynd ati i ddeall sut i dynnu allan?